Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Achub dau o ddŵr ym Mhenmachno

Postiwyd

Am 2.39 'r gloch y prynhawn yma (Dydd Sul, Hydref 20) cafodd yr heddlu eu rhybuddio gan aelodau'r cyhoedd bod dau ganŵydd yn sownd mewn cilfach ger Penmachno, Betws y Coed.

Rhoddodd y swyddogion wybod i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am y digwyddiad a chafodd Tîm Achub ar y Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw yn ogystal.

Credir bod y ddau ganŵydd yn eu 30au hwyr. Llwyddodd un ohonynt i ddod allan o'r dŵr heb gymorth.

Roedd diffoddwyr tân o Lanrwst a'r Uned Achub o Ddŵr ym Mangor hefyd yn bresennol.  Cafodd yr ail ddyn ei achub o'r dŵr gan aelodau'r gwasanaethau brys a Thîm Achub ar y Mynydd Dyffryn Ogwen.

Credir bod y ddau ddyn yn ddiogel ac iach.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen