Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansio’r Ymgyrch ‘Peidiwch â’n gwahodd i ginio!’ yng Ngogledd Gwynedd

Postiwyd

Heddiw mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi lansio ei ymgyrch 'Peidiwch â'n gwahodd i ginio - Meddwl yn Ddiogel, Coginio'n Ddiogel!' er mwyn helpu i leihau nifer y tanau coginio yn yr ardal ac i addysgu trigolion lleol am bwysigrwydd coginio'n ddiogel.

 

Mae dros hanner y tanau damweiniol sydd yn digwydd yng Ngogledd Cymru wedi eu hachosi gan goginio -  nod yr ymgyrch newydd yn amlygu peryglon gadael bwyd yn coginio a pheidio â chanolbwyntio wrth baratoi bwyd.

 

Anghofio diffodd y pentan, gadael bwyd yn y ficrodon yn rhy hir, gorboethi'ch sosban sglodion, llosgi tost, anghofio diffodd y popty  - gall pob un o'r rhain fod yn drychinebus yn y gegin a gallant achosi anafiadau difrifol neu, yn fwy difrifol byth, ladd rhywun.

 

Dyma pam y bydd diffoddwyr tân yn mynd o ardal i ardal dros y misoedd nesaf i siarad gyda siopwyr yng Ngogledd Gwynedd am sut i gadw'n ddiogel yn y gegin.  Byddant yn rhannu amseryddion cegin ac yn annog pobl i gadw'n ddiogel yn y gegin ac i gadw llygaid ar y cloc wrth baratoi bwyd.

 

Bydd cyfle i bobl brofi eu gwybodaeth am ddiogelwch tân drwy gymryd rhan yn ein cwis diogelwch coginio. Bydd yn enillydd lwcus yn derbyn gwerth £100 o dalebau archfarchnad.

 

Bydd cwis coginio ar lein sydd yn cael ei hybu ar fatiau cwrw a phosteri sydd wedi eu hanfon i dafarndai a neuaddau bingo ar draws y rhanbarth hefyd yn helpu'r rhai na all ddod i'n gweld yn yr archfarchnadoedd i ddysgu mwy am ddiogelwch yn y gegin a chyfle hefyd i ennill ein cystadleuaeth.

 

Meddai Geraint Hughes o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'n gyfrifoldeb arnom ni i amlygu nifer yr achosion uchel o danau yn y cartref a gwneud yn siŵr bod pobl yn gwrando ar ein negeseuon -  ond yn y diwedd allwn ni ddim gwneud mwy na chynnig cyngor, mae gofyn i chwi'r unigolyn newid eich arferion a gwrando ar y cyngor hwnnw.

 

"Dro ar ôl tro rydym yn cael ei galw i danau yn y cartref sydd wedi cychwyn yn y gegin - mae'n hawdd iawn anghofio am fwyd sy'n cogion, yn enwedig os ydych wedi blino, ddim yn canolbwyntio neu os ydych wedi bod yn yfed.  Ond gall hyn arwain at ganlyniadau difrifol.  Dydyn ni ddim eisiau cael ei gwahodd i ginio gyda chi a diffodd tân yn eich cegin!

 

"Felly cymrwch sylw o'n ymgyrch, dewch draw i'n gweld yn eich archfarchnad leol - cewch amserydd cegin defnyddiol iawn a chyfle i ennill gwerth £100 o dalebau archfarchnad.  Os na ydyw'n bosib i chwi ddod draw i'n gweld, cymrwch ran yn ein cwis ar lein drwy fynd i www.facebook.com/Northwalesfireservice.

 

"A pheidiwch ag anghofio - mae larymau mwg yn achub bywydau.  AM archwiliad diogelwch tân yn y cartref galwch ein llinell rhadffôn ar 0800 169 1234.

 

 

Dyma air i gall gan Geraint ar sut i gadw'n ddiogel yn y gegin:

 

  • Os oes rhaid i chi adael y gegin, tynnwch y bwyd oddi ar y gwres
  • Peidiwch â defnyddio matsis a thanwyr i danio poptai nwy. Mae dyfeisiadau tanio yn llawer mwy diogel
  • Gwnewch yn siŵr nad ydy coesau'ch sosbenni yn mynd dros ymyl y popty
  • Cadwch eich popty, pentan a gridyll yn lân - gall saim a braster sydd wedi casglu fynd ar dân yn hawdd iawn
  • Peidiwch â hongian dim byd uwch ben eich popty
  • Cymrwch ofal os ydych chi'n gwisgo dillad llac - gallant fynd ar dân yn hawdd iawn
  • Ar ôl i chi orffen coginio gwnewch yn siŵr bod popeth wedi ei ddiffodd
  • Diffoddwch gyfarpar trydanol pan nad ydych yn eu defnyddio
  • Peidiwch byth â defnyddio sosbenni sglodion - defnyddiwch frïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r gwres
  • Gosodwch larymau mwg yn eich cartref - maent ar gael yn rhad ac am ddim a gallant achub eich bywyd.

 

 

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn yr archfarchnadoedd canlynol ar y dyddiadau isod;

 

Dydd Gwener 18fed Hydref- Morrissons Caernarfon

Dydd Gwener 15fed Tachwedd - Asda Bangor

Dydd Gwener Tachwedd 22ain - Tesco Caernarfon

Dydd Iau 28 Tachwedd - Tesco Bangor

Dydd Gwener 6ed Rhagfyr - Asda Pwllheli

 

 

 

I gymryd rhan yn ein cwis ar lein ewch i www.facebook.com/Northwalesfireservice. I gael gwybod mwy am yr ymgyrch, chwiliwch  #wedontwanttocomedinewithyou ar Twitter

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen