Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio ynghylch bagiau gwenith yn dilyn tân mewn fflat ym Mae Colwyn

Postiwyd

Y mae gwraig oedrannus yn cael triniaeth yn yr ysbyty ar hyn o bryd yn dilyn tân yn ei fflat ym Mae Colwyn y bore yma (Dydd Iau, Hydref 17eg).

Credir bod y tân ym Mharc Rhoslan, Ffordd Conwy wedi ei achosi gan fag gwenith a oedd wedi ei adael yn y ficrodon yn rhy hir. Galwyd diffoddwyr tân o Fae Colwyn i'r digwyddiad am  03.56 o'r gloch.

Cafodd y wraig 93 mlwydd oed ei rhybuddio am y tân gan larwm mwg a derbyniodd gyngor dianc o dân gan drinwyr galwadau'r gwasanaeth tân ac achub tra oedd help ar y ffordd.

Cafodd yr Heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans hefyd eu hanfon i'r digwyddiad.  Cafodd y wraig ei thywys allan yn ddiogel a chafodd driniaeth gan barafeddygon yn y fan a'r lle oherwydd ei bod wedi anadlu mwg, cyn cael ei chludo i'r ysbyty am driniaeth ragofalol.

Bu'n rhaid i'r trigolion eraill adael yr adeilad yn ogystal.  Llwyddodd pawb i fynd allan yn ddiogel.  Cafodd ddau o bobl driniaeth yn y fan a'r lle a'u cludo i'r ysbyty am driniaeth, rhag ofn.

Meddai Gwyn Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: " Cawsom wybod gan Careline bod y larwm mwg wedi seinio yn yr eiddo.  Rhoddodd y larwm rybudd cynnar i ni fod problem yn yr adeilad a galluogi i'r gwasanaethau brys ymateb yn gyflym.

"Mae'n ymddangos mai bag gwenith a oedd wedi  cael ei adael i gynhesu yn rhy hir achosi'r tân ac rydym yn rhybuddio trigolion y Gogledd sydd yn defnyddio'r math yma o ddyfeisiadau cynhesu i ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.  Rydym hefyd yn eu cynghori i beidio â gadael bwyd yn coginio."  

 

Mae larymau mwg yn achub bywydau - i gael gwybod mwy am ddiogelwch tân ac i gael gosod larymau mwg yn y cartref, cofrestrwch am archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim drwy fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu trwy alw ein llinell rhadffôn 24 awr ar  0800 169 1234.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen