Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

BANG – Cadw ysbryd Calan Gaeaf a Thân Gwyllt

Postiwyd

Gyda dathliadau Calan Gaeaf a Thân Gwyllt ar y gorwel, mae Heddlu Gogledd Cymru a'u partneriaid yn dod at ei gilydd unwaith eto er mwyn gofyn i bobl 'fynd i ysbryd y noson' gydag ymgyrch B.A.N.G.

Mae gan Heddlu Gogledd Cymru gyfrifoldeb i gadw cymunedau'n ddiogel a thrwy weithio gyda phartneriaid eraill gan gynnwys y Gwasanaeth Tân ac Achub, Partneriaid Diogelwch Cymunedol ac awdurdodau lleol, rydym yn gallu hyrwyddo negeseuon arwyddocaol drwy'r fenter 'cadwch ysbryd Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt'. Mae wedi cael ei brofi bod y ffordd hon o weithredu, ynghyd â threfnu gweithgareddau dargyfeiriol sy'n cael pobl ifanc i gymryd rhan mewn digwyddiadau hwyliog, yn gallu bod yn ffordd effeithiol o sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau eu hunain yn ddiogel.

Mae ein swyddogion a'n partneriaid wedi trefnu amrywiaeth o weithgareddau Nos Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt ledled Gogledd Cymru er mwyn ymgysylltu â phobl ifanc. Mae'r gweithgareddau hyn wedi cael eu hariannu gyda chefnogaeth gan y tîm Lleihau Llosgi Bwriadol, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned (PACT).

Mae posteri - gan gynnwys un sydd yn gofyn i alwyr cast neu geiniog beidio â galw - yn cael eu dosbarthu i drigolion gan Dimau Plismona'r Gymdogaeth ledled ardal yr Heddlu.

Mae'r posteri newydd sbon yma hefyd ar gael i'w lawrlwytho oddi ar wefan yr heddlu (www.heddlu-gogledd-cymru.police.uk) ac ar gael drwy'r cownteri blaen yn y gorsafoedd canlynol: Wrecsam, Rhyl, Bae Colwyn, Llandudno, Bangor, Caernarfon a Chaergybi.

Mae perchnogion siopau hefyd yn cael eu hannog i beidio â gwerthu blawd ac wyau i blant yn y dyddiau sy'n arwain at 31 Hydref, a bydd y timau hefyd yn dosbarthu posteri i adwerthwyr yr ardal.

Mae Swyddogion Heddlu Cyswllt Ysgolion yng Ngogledd Cymru hefyd yn siarad â phobl ifanc - drwy'r ysgolion a chlybiau ieuenctid, am y ffordd y gall eu hymddygiad effeithio ar bobl eraill, nid yw pawb yn dymuno bod yn rhan o'r dathliadau Calan Gaeaf. Byddant hefyd yn cael eu hatgoffa i gadw eu hunain yn ddiogel wrth fynd allan i chwarae cast neu geiniog ac mae llyfrnodau pwrpasol yn cynnwys cyngor wedi cael eu dosbarthu.

"Mae timau plismona lleol ar draws Gogledd Cymru yn cydweithio'n agos â'u cymunedau er mwyn sicrhau bod y rhai hynny sydd eisiau cael hwyl dros Galan Gaeaf yn gallu gwneud hynny heb amharu ar eraill," meddai'r Arolygydd Julie Sheard sydd yn gyfrifol am yr Adran Diogelwch Cymunedol.

"Er bod llawer o bobl yn mwynhau eu hunain yr adeg yma o'r flwyddyn, mae pobl yn cnocio ar ddrws tŷ'n annisgwyl drwy gydol y noson yn gallu achosi poen meddwl i rai pobl"

"Drwy osod arwydd yn y ffenestr, bydd pawb yn gwybod beth mae'r trigolion hynny'n ei ffafrio. Gobeithio y bydd pobl yn parchu hynny ac y bydd pobl sy'n dymuno peidio â chael ymwelwyr yn cael llonydd ar nos galan gaeaf."

Ychwanegodd: "Rydym yn dymuno nos galan gaeaf diogel a hapus i bawb ond rydym am atgoffa pobl i gael hwyl mewn modd cyfrifol yn hytrach nac aflonyddu pobl eraill."

Mae'r Heddlu ac asiantaethau partner yn cymryd agwedd ragweithiol ac ar y cyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac mae pamffledi sy'n cynnwys cyngor a gwybodaeth am dân gwyllt hefyd yn cael eu dosbarthu.

Mae'r heddlu a phartneriaid hefyd yn cydweithio â'r Gwasanaeth Tân ac Achub drwy ddosbarthu pamffledi ynglŷn â phwysigrwydd diogelwch tân gwyllt.

Ychwanegodd Arolygydd Sheard: "Rydym yn gwybod fod y rhan fwyaf o bobl yn mwynhau'r adeg yma o'r flwyddyn mewn modd cyfrifol ac nid ydym eisiau difetha eu hwyl, ond yn anffodus mae lleiafrif yn barod i achosi problemau a defnyddio'r adeg hon o'r flwyddyn fel esgus i dorri'r gyfraith ac ymddwyn yn wrthgymdeithasol.

"Byddwn yn cydweithio ag asiantaethau eraill er mwyn cadw pobl yn ddiogel a sicrhau nad yw eu hwyl yn cael ei ddifetha. Er mwyn sicrhau diogelwch pawb hoffem annog pobl fynychu nosweithiau tân gwyllt sydd wedi eu trefnu, a fydd yn cael eu hyrwyddo drwy'r wasg leol cyn y 5ed o Dachwedd."

Meddai Terry Williams, Pennaeth Diogelwch Cymunedol, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Pob blwyddyn, bydd nifer fawr o bobl yn cael eu hanafu'n ddifrifol neu'n cael eu llosgi yn ystod y tymor tân gwyllt wrth danio coelcerthi neu dân gwyllt. Digwyddiadau cymunedol wedi'u trefnu sy'n darparu'r gwerth gorau am arian yng Ngogledd Cymru heb os ac maent hefyd yn sicrhau nad oes rhaid i deuluoedd gymryd risg drwy gynnal partïon tân gwyllt.

"Mae'n anghyfreithlon gwerthu tân gwyllt i unrhyw un o dan ddeunaw. Mae nifer o fathau o dân gwyllt wedi eu gwahardd rhag eu gwerthu i'r cyhoedd. Mae taflu tân gwyllt mewn man cyhoeddus hefyd yn anghyfreithlon - bydd dirwy o £5000 yn disgwyl y rhai sy'n cael eu heuogfarnu."

Mae partneriaid megis Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam hefyd yn brysur yn paratoi ar gyfer y cyfnod gyda swyddogion o Adran Safonau Masnach, Adran Dai ac Iechyd Diogelwch Cyngor Bwrdeistref Wrecsam yn cynnal gweithgareddau.

Meddai Lee Robinson, Cyfarwyddwr Perfformiad Strategol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: "Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth i'r Cyngor a'r Partneriaeth Diogelwch Cymunedol. Rydym eisiau i drigolion fwynhau Nos Galan Gaeaf a noson Tân Gwyllt ac ein prif nod yw sicrhau bod pawb yn teimlo ac yn cadw'n ddiogel dros y cyfnod. Fodd bynnag, mae'r Bartneriaeth eisiau pwysleisio y bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ac rydym eisiau pwysleisio'r neges na fyddwn yn ei oddef."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen