Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân yn ffatri Kronospan, Wrecsam

Postiwyd

Cafodd diffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i dân bychan yn Kronospan, yn y Waun.

 

Derbyniwyd yr alwad am 01.03hrs o'r gloch Ddydd Iau 11eg Hydref, 2013.

 

Cafodd criwiau o'r Waun, Wrecsam, Llangollen a Glannau Dyfrdwy eu galw i'r digwyddiad.

 

Roedd y tân wedi ei gyfyngu i gludfelt - er mai tân bychan ydoedd roedd yn anodd ei gyrraedd.  Daethpwyd â'r tân dan reolaeth erbyn 03.28o'r gloch drwy ddefnyddio un bibell ddŵr a dwy brif bibell.

 

Credir bod y tân wedi ei achosi gan sbarc a roddodd sglodion ffibr ar dân.

 

Ni chafodd unrhyw un ei anafu yn y tân.  Cafodd oddeutu 20 tunnell o sglodion ffibr eu llosgi yn y tân.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen