Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Hybu diogelwch tân ar Ddiwrnod Pobl Hŷn

Postiwyd

Y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar i bobl gadw llygaid ar berthnasau a chymdogion hŷn ar Ddiwrnod Pobl Hŷn 2013 sydd yn digwydd heddiw (Dydd Mawrth 1af Hydref).

Dengys yr ystadegau mai pobl hŷn sydd fwyaf mewn perygl o farw neu gael eu hanafu mewn tân.  Y llynedd bu farw 380 o bobl mewn tân yn y DU, ac o'r rhai roedd 178 (47%) yn bobl a oedd yn 60 oed neu hŷn.

Er mai pobl hŷn sydd fwyaf mewn perygl o dan y mae rhai rhagofalon syml y gallant eu dilyn er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cadw mor ddiogel â phosibl.

Fe aeth James Roberts a Dave Roberts o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i'r digwyddiad 'Byw'n hirach - Heneiddio'n dda' yn yr Wyddgrug heddiw er mwyn hybu diogelwch tân ymhlith ymwelwyr.

Meddai Dave, sydd yn Rheolwr Partneriaeth dros Sir y Fflint a Wrecsam: "Y mae pobl hŷn ymhlith un o'r grwpiau yr ydym ni fel Gwasanaeth yn ceisio eu targedu, ac felly roedd yn bwysig i ni fod yn bresennol yn y digwyddiad hwn.  Roedd nifer o weithgareddau gan wahanol asiantaethau wedi eu trefnu ar gyfer yr ymwelwyr. Rydym yn hybu ein harchwiliadau diogelwch tân yn y cartref lle byddwn yn dod i'ch cartref i drafod diogelwch tân a gosod larymau mwg os oes angen.

Mae'r archwiliadau hyn ar gael yn rhad ac am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.  I gofrestru am archwiliad ffoniwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234, neu ewch i'n gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen