Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

ADALW BLANCEDI TRYDAN MORPHY RICHARDS

Postiwyd

ADALW BLANCEDI TRYDAN MORPHY RICHARDS HYSBYSIAD WEDI EI GYHOEDDI 14 IONAWR 2013

*** Adalw cynnyrch ***

Blanced Drydan Sengl, Model 75310

Blanced Drydan Ddwbl sydd gan reolydd dwbl, Model 75312

Mae Morphy Richards wedi cyhoeddi hysbysiad sydd yn adalw Blancedi Trydan sydd gan y rhifau model  75310 a 75312.

Gwerthwyd y blancedi hyn yn y Du ac Iwerddon gan fân-werthwyr cenedlaethol ac annibynnol ac ar wefan Morphy Richards rhwng mis  Hydref 2008 a mis Ionawr 2010.

Mae'n bosib y gall nam ddatblygu yn y  blancedi hyn a all achosi i'r blancedi orboethi a mynd ar dân.  Fel mesur rhagofalus, rydym yn gofyn i gwsmeriaid roi'r gorau i'w defnyddio ar unwaith.

Gofynnwn i berchnogion y blancedi dan sylw ( y gellid eu hadnabod dwy edrych am y rhifau model  75310 neu 75312 ar y label) roi'r gorau i ddefnyddio'r blancedi a chysylltu â Morphy Richards drwy ffonio (01709 572570) neu anfon ebost (blankets@morphyrichards.co.uk). Mae'r llinellau ffôn ar agor Ddydd Llun - Dydd Gwener rhwng 8:30am - 4:00pm.

Nid oes unrhyw flancedi trydan eraill gan  Morphy Richards wedi eu heffeithio gan yr hysbysiad hwn a hoffem ddiolch i'n cwsmeriaid am eu cydweithrediad ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustod a achosir gan hyn.  

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen