Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cadwch yn ddiogel rhag tân yn ystod y tywydd oer

Postiwyd

Gyda'r tymheredd yn gostwng ar draws Cymru, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cyhoeddi rhybudd amserol i breswylwyr gadw'n gynnes ac yn ddiogel wrth i'r tywydd oeri.

Dywedodd Gary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân, "Wrth iddi oeri, mae'n anochel y byddwn ni i gyd yn treulio mwy o amser gartref yn cadw'n glyd. Mae'n bosibl y byddwch yn gwneud mwy er mwyn cadw'n gynnes, megis defnyddio gwresogyddion, tanau agored a stofiau coed ond gall y rhain gynyddu'r perygl o dân yn y cartref. Drwy ddilyn rhai rheolau syml, gallwch wneud yn siŵr y byddwch yn cadw'n ddiogel ac yn gynnes.

"Rydym yma i helpu a chynnig cyngor. Os oes gennych unrhyw amheuon ynglŷn â materion diogelwch tân, cysylltwch â ni. Mae pawb am gadw'n gynnes yn ystod y gaeaf, ond ni ddylem roi ein bywydau yn y fantol."

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhoi'r cyngor canlynol er mwyn eich helpu i leihau'r perygl o dân y gaeaf hwn:

- Defnyddiwch gard tân bob amser er mwyn amddiffyn tanau agored rhag gwreichion sy'n tasgu, a gwnewch yn siŵr fod y colsion dan reolaeth ac wedi diffodd yn llwyr cyn i chi fynd allan neu fynd i'r gwely.

- Cadwch wresogyddion cludadwy yn glir o lenni a dodrefn a pheidiwch byth â'u defnyddio i sychu dillad. Tynnwch y plwg ar wresogyddion trydan pan fyddwch chi'n mynd allan neu'n mynd i'r gwely.

- Gwnewch yn siŵr bod eich stof goed yn gweithio'n iawn a bod y drysau a'r gwarchodwr yn cau'n iawn. Wrth osod stof newydd, mae'n hanfodol fod rhywun cymwys yn gwneud y gwaith. Gwnewch yn siŵr fod simneiau'n cael eu glanhau'n rheolaidd er mwyn atal carbon rhag ymgasglu yno gan y gall danio'n rhwydd a chreu problemau yn y dyfodol.

Gall blancedi trydan eich helpu i gadw'n gynnes yn ystod y nosweithiau oer, ond gall tanau fod yn drychinebus gyda 440 o anafiadau'n deillio o bob 1000 o danau a gyneuwyd gan blanced drydan. Felly, mae angen ystyried materion diogelwch tân:

-     Peidiwch byth â defnyddio potel ddŵr poeth yn yr un gwely â blanced drydan, hyd yn oed os bydd y blanced drydan wedi ei diffodd.

-     Tynnwch blwg eich blancedi trydan cyn i chi fynd i mewn i'r gwely, oni bai fod rheolydd thermostat arnynt sy'n eich galluogi i'w defnyddio'n ddiogel drwy gydol y nos.

-     Peidiwch â chadw blancedi trydan wedi eu plygu gan fod hyn yn difrodi'r gwifrau mewnol. Storiwch nhw'n wastad neu rholiwch nhw.

Mae nifer o bobl yn defnyddio bagiau gwenith er mwyn cadw'n gynnes ar y funud ac rydym yn rhoi'r cyngor canlynol ynglŷn â hyn.

-     Prynwch fagiau gwenith sydd â chyfarwyddiadau twymo clir arnynt a manylion cyswllt y gwneuthurwyr.

-     Defnyddiwch nhw fel pecyn gwres sydd i'w roi'n uniongyrchol ar y corff.

-     Gwyliwch rhag eu gorddefnyddio - arogl llosgi neu gochni.

-     Dylech eu gadael i oeri mewn man diogel bob amser ar arwyneb sydd heb fod yn hylosg, fel sinc y gegin.

-     Peidiwch byth â defnyddio bagiau gwenith i gynhesu'r gwely.

-     Peidiwch â gordwymo'r bagiau. (Y mwyafswm a argymhellir yw tri munud gan y rhan fwyaf o wneuthurwyr.)

-     Peidiwch ag aildwymo'r bag nes y bydd wedi oeri'n llwyr (gallai gymryd dwy awr).

-     Peidiwch â mynd â gadael y ficrodon tra byddwch yn eu cynhesu.

-     Peidiwch â storio'r bag nes y bydd yn oer.

-     Peidiwch â defnyddio'r bag os gwelwch unrhyw arwyddion o broblemau.

Ychwanegodd Gary, "Gan ei bod hi'n gychwyn Blwyddyn Newydd, gwnewch hi'n adduned i brofi'ch larwm mwg bob wythnos a newidiwch y batri yn ôl cyfarwyddyd y gwneuthurwr. Mae larwm mwg sy'n gweithio yn rhoi rhybudd cynnar i chi ynglŷn â thân a gallant achub bywydau."  

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim i holl drigolion y rhanbarth. Yn ystod archwiliad, bydd aelod o'r Gwasanaeth yn ymweld â'ch cartref, yn rhoi awgrymiadau a chynghorion ynglŷn â diogelwch rhag tân, eich helpu i lunio cynllun dianc mewn tân, ac os oes angen, yn gosod larymau mwg newydd yn eich cartref. Er mwyn cofrestru, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu ffoniwch ein llinell ffôn 24 awr am ddim ar 0800 169 1234.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen