Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Llifogydd yng Ngogledd Cymru – diweddariad am 08.00 o’r gloch 25ain Medi

Postiwyd

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn delio gyda llifogydd drwy'r nos - ond maent wedi gostegu erbyn hyn.

Roedd y llifogydd yn bennaf yn ymwneud â dŵr wyneb a draeni a oedd yn gorlifo.  Cafwyd llifogydd mewn rhai cartrefi ac adeiladu ond ni achoswyd unrhyw ddifrod difrifol.  

Er ein bod wedi cael ein galw i ddigwyddiadau yn Wrecsam, Conwy, Sir Ddinbych ac Ynys Môn, mae'r broblem ar ei gwaethaf yn Sir y Fflint.

Ers 14.00 o'r gloch ddoe (24ain Medi), mae ystafell reoli'r  gwasanaeth tân ac achub  wedi derbyn 18 yn fwy o alwadau yn ymwneud â llifogydd ac y mae swyddogion neu griwiau wedi cael eu galw i 14 o ddigwyddiadau yn ymwneud â phobl neu dai a oedd wedi cael eu heffeithio gan y  llifogydd (gweler y diweddariad a gafwyd am 14.00 o'r gloch ar 24 Medi) .

Am 21.48 o'r gloch neithiwr, roedd yn rhaid i griwiau achub gŵr 43 mlwydd oed o'i gerbyd ar Chester Road, Sandycroft.  Roedd y cerbyd mewn dŵr dwfn iawn. Aethpwyd ag ef i'r ysbyty am driniaeth ragofalol.

Yn gynharach yn y dydd am 19.28 o'r gloch cafodd criwiau eu galw i barc carafannau yn Llangollen lle bu'n rhaid iddynt bwmpio dŵr o dair carafán.

Yn Ynys Môn, am 01.08 o'r gloch y bore yna cafodd criw eu galw i Wellington Road, Llanerchymedd lle'r oedd afon wedi chwyddo a bu'n rhaid dargyfeirio'r dŵr.

Cafodd criw arall ei alw i ddelio gyda seler a oedd yn llawn dŵr yn Llanddulas, Abergele am 18.40 o'r gloch neithiwr a llifogydd ar Ffordd Llaneilian, Bae Colwyn am 17.55 o'r gloch.  

Meddai Paul  Jenkinson o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Rydym yn cynghori'r cyhoedd i wrando ar gynghorion yn y wasg a chyngor ar deithio gan Heddlu Gogledd Cymru - mae'n well peidio â theithio pan fo cymaint o ddŵr wyneb ar y ffyrdd oni ai bod yn  rhaid i chi.  Peidiwch â gyrru trwy lifddwr, rhag ofn ei fod yn ddyfnach na edrychir."

Cynghorir y cyhoedd i gysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru am gyngor;

Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol - gwasanaeth rhad ac am ddim sy'n rhoi rhybuddion llifogydd i gartrefi sydd yn agored i lifogydd trwy alwad ffôn, ffôn symudol, ebost,  neges destun, ffacs neu alwr.  I gofrestru galwch  0845 988 1188 neu ewch i  www.environment-agency.gov.uk.

Mae rhybuddion lifogydd yn cael eu darlledu ar y teledu a'r radio fel rhan o'r bwletinau tywydd a theithio rheolaidd; gwefan yr Asiantaeth www.environment-agency.gov.uk/floodwarning, ITV Teletext (Tudalen 169) a BBC Ceefax (Tudalen 419). At hyn, mae gan yr  Asiantaeth linell gwybodaeth 24 awr sydd yn rhoi gwybodaeth am Rybuddion Llifogydd ar hyd a lled Cymru a Lloegr.  Gallwch wrando ar y rhybuddion yn eich ardal chi ar unrhyw adeg neu siarad â thriniwr galwadau 24 awr y dydd trwy alw  Floodline 08459 88 11 88.

Mae rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru bob 15 munud ar y wefan.  Ewch i www.environment-agency.gov.uk/flood i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen