Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd swyddogol wedi cynnydd yn nifer y tanau trydanol yng Nghymru

Postiwyd

WYTHNOS DIOGELWCH TRYDANOL 2012 - 24ain - 29ain MEDI

 

Mae'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn cefnogi'r Cyngor Diogelwch Trydanol ac yn annog y cyhoedd i fod yn fwy ymwybodol o ddiogelwch trydanol gan fod nifer o eitemau trydanol peryglus yn cael eu defnyddio yn ein cartrefi o ddydd i ddydd.

 

Yn frawychus iawn mae gwaith ymchwil newydd a gwblhawyd gan y Cyngor Diogelwch trydanol wedi dangos cynnydd yn nifer y tanau a achoswyd drwy gamddefnyddio offer trydanol yn y cartref.

 

Ac er mwyn helpu perchnogion tân gadw'n ddiogel rhag tân, mae'r gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru am atgoffa eu trigolion eu bod yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn rhad ac am ddim i drigolion - mae cyngor diogelwch tân am ddim ar gael drwy alw 0800 169 1234 o unrhyw le yng Nghymru, neu drwy fynd  www.larwmmwgamddim.co.uk

 

Camddefnyddio offer trydanol yw un o brif achosion tanau yn y cartref yn y DU  ac y mae miliynau o bobl yn gwneud camgymeriadau bob dydd heb sylweddoli eu bod mewn perygl o achosi tân yn y cartref.

 

Mae'r Elusen, y mae ei hymgyrch yn cael ei chefnogi gan Gymdeithas y Prif Ddiffoddwyr Tân (CFOA), wedi cyhoeddi canllawiau, cynghorion ac app ar Facebook er mwyn mynd i'r afael â'r camgymeriadau diogelwch yma y gellid eu hosgoi yn hawdd iawn.

 

Y camgymeriadau mwyaf cyffredin yng Nghymru[a chanran y bobl yng Nghymru sydd yn euog o wneud y camgymeriadau hyn]

    Achosi perygl tân drwy roi pethau ar ben y ficrodon a blocio'r fent (28%)

    Cynyddu'r perygl y bydd tân difrifol yn lledaenu drwy adael y sychwr dillad ymlaen dros nos (9%)

    Blocio fentiau drwy beidio â glanhau y tu ôl i oergelloedd/rhewgelloedd  (44%)

    Gorlwytho socedi addaswyr, gan achosi cynnydd peryglus mewn tymheredd (16%)

    Gadael cyfarpar trydanol ymlaen heb neb i gadw llygaid arnynt, a chael eu rhybuddio gan arogl llosgi  (8%)

 

Yn gyffredinol, mae tri chwarter [i] o oedolion yng Nghymru yn cyfaddef eu bod yn euog o o leiaf un o'r camgymeriadau uchod neu gamddefnyddio offer trydanol.  Mae'r Cyngor Diogelwch Trydanol yn credu bod cyswllt amlwg rhwng  diffyg dealltwriaeth a'r cynnydd mewn 'tanau oherwydd camgymeriad' .

 

Mae tanau a achoswyd o ganlyniad i gamddefnyddio cyfarpar trydanol wedi cynyddu traean ers 2009[ii], er ein bod wedi gweld gostyngiad yn nifer y tanau yn y cartref, gyda thanau sosbenni sglodion wedi gostwng  dwy ran o dair a thanau a achoswyd o ganlyniad i ysmygu wedi gostwng traean[ iii]. Ar gyfartaledd, mae tanau a achoswyd drwy gamddefnyddio cyfarpar trydanol yn lladd 22 o bobl, anafu oddeutu 2,500[iv] yn ddifrifol ac yn achosi difrod gwerth degau ar filoedd o bunnoedd bob blwyddyn [v]. Y llynedd yn unig, roedd 14,700  o'r tanau hyn.

 

Mae'r pryder hwn  wedi cynyddu oherwydd bod cynnydd sylweddol yn nifer yr offer trydanol risg uchel sy'n yn cael eu defnyddio yn y cartref - ers  2004, mae nifer y microdonnau wedi cynyddu 1,457,000 a  nifer y peiriannau sychu dillad wedi cynyddu 2,148,000[vi].

 

Er gwaetha'r cynnydd yn y peryglon sydd yn y cartref, nid oes gan nifer o oedolion yng Nghymru offer i'w hamddiffyn rhag tanau trydanol; dim ond hanner (50%) sydd gan Ddyfais Cerrynt Gweddilliol (RCD) yn eu bocsys ffiws, teclyn diogelwch hanfodol sydd yn lleihau'r tebygolrwydd o dân drwy dorri'r cyflenwad trydan os oes nam.  Fodd bynnag, mae bron i bedwar o bob pump  o bobl (77%) yn credu bod eu cartrefi yn ddiogel rhag tân trydanol.

 

Camau syml i'ch cadw'n ddiogel

 

Er mwyn helpu'r cyhoedd i brofi eu gwybodaeth a bod yn fwy ymwybodol o gamgymeriadau diogelwch tân mae'r Cyngor Diogelwch Trydanol wedi creu gêm Camgymeriadau Tân ar Facebook, fydd yn helpu  pobl  i adnabod y peryglon a gwella diogelwch.  

 

Mae modd i bobl lawrlwytho app 'Archwiliad Diogelwch Trydanol yn y Cartref' ar eu  ffonau clyfar yn rhad ac am ddim, neu fynd i wefan bwrpasol y Cyngor Diogelwch Trydanol esc.org.uk/homesafety, sydd yn cynnwys cynghorion ar sut i osgoi gwneud camgymeriadau syml.

 

Meddai Phil Buckle, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Cyngor Diogelwch Trydanol: " Mae pobl yn credu eu bod yn ymddwyn mewn ffordd ddiogel ond mae mwyafrif y bobl y gwnaethom ni eu holi yn peryglu eu hunain heb yn wybod drwy wneud camgymeriadau diogelwch.  Mae'n hawdd iawn atal  tanau a achosir o ganlyniad i gamddefnyddio cyfarpar - sydd gan amlaf yn danau trydanol - ond byddant yn parhau i gynyddu oni bai bod pobl yn sylweddoli bod pethau syml iawn yn gallu achosi ac yn achosi tanau.  

 

"Heddiw rydym yn rhybuddio defnyddwyr i wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o ddiogelwch trydanol er mwyn osgoi'r risg gynyddol o anafiadau neu farwolaethau o ganlyniad i danau trydanol.  Mae modd atal llawer iawn o ddamweiniau ac mae'r Cyngor Diogelwch Trydanol yma i'ch helpu.   Gallwch amddiffyn eich hun, eich cartref a'ch teulu drwy ddilyn ein cynghorion syml, gosodwch Ddyfais Cerrynt Gweddillol yn eich bocs ffiws neu profwch yr hyn yr ydych yn ei wybod am ddiogelwch yn ein cwis diogelwch ar Facebook."

 

Meddai Vij Randeniya, Llwywyd Cymdeithas y Prif Ddiffoddwyr Tân: "Rydym yn cefnogi ymgyrch y Cyngor Diogelwch Trydanol a'r bartneriaeth gyda gwasanaethau tân ac achub ar hyd a lled y wlad.  Mae tân yn y cartref yn cael effaith tymor hir, nid yn unig oherwydd colli eiddo, atgofion neu fywydau o bosib, ond hefyd greithiau meddyliol a thrawma.  Yn ddiolchgar, mae modd atal nifer o danau drwy ddilyn cynghorion syml, ond mae'r gwaith ymchwil a gwblhawyd gan y Cyngor Diogelwch Trydanol wedi darganfod diffyg ymwybyddiaeth brawychus ymysg y cyhoedd yn y maes hwn."

 

Fe adawodd Paul a Jenny Leahy eu peiriant sychu dillad ymlaen dros nos a chawsant eu deffro yn ystod oriau mân y bore gan eu mab a oedd wedi bod yn gwneud ei orau glas  i'w deffro oherwydd bod mwg yn dod o'r ystafell amlbwrpas.  Meddai Paul:  "Ni ddylem fyth fod wedi gadael y peiriant ymlaen dros nos, oherwydd bod hyn yn cynyddu'r perygl o dân oherwydd nad allwch  ymateb mewn pryd - ond ar yr adeg nid oeddem yn ymwybodol o'r peryglon.  Er ein bod yn ffodus iawn na chafodd unrhyw un ei anafu, roedd yn brofiad dychrynllyd iawn  i ni a'n mab, ac y mae wedi gwastraffu llawer iawn o'n arian a'n amser.  Erbyn hyn rydym yn fwy ymwybodol o ddiogelwch trydanol ac yn gwneud yn siŵr bod ein cyfarpar wedi eu diogelu gan Ddyfais Cerrynt Gweddilliol.  Rydym yn annog pawb i ymddwyn yn yr un mod."

 

I wybod mwy am sut y gallwch gadw'ch hun, eich cartref a'ch teulu yn ddiogel rhag tân yn y cartref cymrwch ran yn y cwis diogelwch drwy chwilio amdanom ni,  'Electrical Safety Council', ar Facebook, neu ddilyn ein cynghorion drwy fynd i esc.org.uk/homesafety

 

Gair i gall ar sut i osgoi tanau trydanol

 

Mae'r Cyngor Diogelwch Trydanol wedi cynhyrchu pum cyngor syml i'ch helpu i atal tân trydanol yn y cartref:

 

  • Gwnewch yn siŵr bod gennych Ddyfais Cerrynt Gweddilliol addas yn eich bocs ffiws (uned i ddefnyddwyr)
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn trefnu archwiliad llawn nawr ac yn y man gam drydanwr cymwysedig ( i weld a yw eich trydanwr ar y gofrestr ewch i esc.org.uk)
  • Ceisiwch osgoi defnyddio offer, goleuadau neu socedi sydd wedi eu difrodi neu sydd â nam arnynt.  Os credwch fod nam ar eich gwifrau neu offer trydanol, rhowch gorau i'w defnyddio ar unwaith a gofynnwch i drydanwr cymwysedig eu brofi  neu ewch i esc.org.uk am gyngor

Profwch yr hyn yr ydych yn ei wybod am ddiogelwch trydanol yn eich cwis ar Facebook www.facebook.com/Electrical  am gyfle i ennill trip i Baris, yn cynnwys dwy noson mewn gwesty pedair seren

  • Archwiliwch eich cartref drwy lawrlwytho ap 'Archwiliad Diogelwch Trydanol yn y Cartref' i'ch ffôn clyfar sydd ar gael yn rhad ac am ddim gan y Cyngor Diogelwch Trydanol.

 

Ffynonellau'r gwaith ymchwil

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys tueddiadau gan Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol a data ar nifer  yr eitemau trydanol peryglus yn y cartref gan Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd.  Mae'r Cyngor Diogelwch Trydanol hefyd wedi comisiynu gwaith ymchwil newydd ymysg 4,000 o oedolion sy'n ymwneud ag agwedd y cyhoedd tuag at ddiogelwch tân.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen