Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Llifogydd yng Ngogledd Cymru

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cael ei alw i nifer o lifogydd ar hyd a lled y rhanbarth y bore yma -yn  bennaf i ddelio â llifogydd a achoswyd gan ddŵr wyneb.  Ni achoswyd unrhyw  ddifrod i  gartrefi neu adeiladau.

Er bod Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi cyhoeddi rhybuddion ar gyfer sawl ardal, mae'r broblem ar ei gwaethaf yn Sir y Fflint.

A,12.18 o'r gloch galwyd criwiau o Lannau Dyfrdwy i Chester Rd, Pentre, Glannau Dyfrdwy i atal llifddwr  rhag cyrraedd rhes o dai. Cafodd nifer o dai ar Willow Road eu heffeithio gan y llifogydd.

Am 12.08 o'r gloch fe anfonwyd peiriannau o'r Wyddgrug a Wrecsam i Gae Bracty, Yr Wyddgrug, i ddelio gyda llifogydd y tu allan i eiddo.

Am  09.42 o'r gloch galwyd criwiau i Lanfynydd lle'r oedd car yn sownd mewn llifddwr.  Roedd yn rhaid i'r criw achub y gyrrwr.

Ers 09.30 o'r gloch y bore yma, mae ystafell reoli'r  gwasanaeth tân ac achub  wedi derbyn 28 o alwadau yn ymwneud â llifogydd ac y mae swyddogion neu griwiau wedi cael eu galw i 19 o ddigwyddiadau yn ymwneud â thai a oedd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd, a'r rheiny yn bennaf yn Sir y Fflint.

Cynghorir y cyhoedd i gysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru am gyngor;

Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol - gwasanaeth rhad ac am ddim sy'n rhoi rhybuddion llifogydd i gartrefi sydd yn agored i lifogydd trwy alwad ffôn, ffôn symudol, ebost,  neges destun, ffacs neu alwr.  I gofrestru galwch  0845 988 1188 neu ewch i  www.environment-agency.gov.uk.

Mae rhybuddion lifogydd yn cael eu darlledu ar y teledu a'r radio fel rhan o'r bwletinau tywydd a theithio rheolaidd; gwefan yr Asiantaeth www.environment-agency.gov.uk/floodwarning, ITV Teletext (Tudalen 169) a BBC Ceefax (Tudalen 419). At hyn, mae gan yr  Asiantaeth linell gwybodaeth 24 awr sydd yn rhoi gwybodaeth am Rybuddion Llifogydd ar hyd a lled Cymru a Lloegr.  Gallwch wrando ar y rhybuddion yn eich ardal chi ar unrhyw adeg neu siarad â thriniwr galwadau 24 awr y dydd trwy alw  Floodline 08459 88 11 88.

Mae rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru bob 15 munud ar y wefan.  Ewch i www.environment-agency.gov.uk/flood i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen