Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y diweddaraf am y llifogydd yng Ngogledd Cymru – 16.30 o’r gloch

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn delio gyda llifogydd drwy'r dydd - roedd y digwyddiadau yn bennaf yn ymwneud â dŵr wyneb a draeni a oedd yn gorlifo.  Cafwyd llifogydd mewn rhai cartrefi ac adeiladau ond ni achoswyd unrhyw ddifrod difrifol.  

Er ein bod wedi cael ein galw i ddigwyddiadau yn Wrecsam a Chonwy, mae'r broblem ar ei gwaethaf yn Sir y Fflint.

Ers 09.30 0'r gloch  y bore yma, mae ystafell reoli'r  gwasanaeth tân ac achub  wedi derbyn 44 o alwadau yn ymwneud â llifogydd ac y mae swyddogion neu griwiau wedi cael eu galw i 34 o ddigwyddiadau yn ymwneud â thai a oedd wedi cael eu heffeithio gan y  llifogydd.

Am  14.46 o'r gloch, galwyd criwiau o Gonwy a Bae Colwyn i Ffordd y Traeth, Llanddulas, Abergele lle bu'n rhaid iddynt bwmpio dŵr oddi ar y ffordd.

Am 14.41 o'r gloch galwyd criw o Gonwy i eiddo yn Glan y Môr, Abergele a oedd wedi dioddef llifogydd  a achoswyd gan ddraen a oedd wedi blocio.

Am 13.57 o'r gloch galwyd criwiau o'r Waun a Johnsown i bwmpio dŵr o eiddo yn Lambourne Court, Wrecsam lle'r oedd draen arall wedi blocio.

Hefyd am 13.57 o'r gloch galwyd criwiau o Johnstown a Rhuthun i gynorthwyo cerbyd a oedd wedi yn sownd mewn llifddwr a oedd yn llifo'n gyflyn yng Nghoedpoeth, Wrecsam - llwyddwyd i achub pawb a chawsant driniaeth gan barafeddygon yn y fan a'r lle.  

Cynghorir y cyhoedd i gysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru am gyngor;

Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol - gwasanaeth rhad ac am ddim sy'n rhoi rhybuddion llifogydd i gartrefi sydd yn agored i lifogydd trwy alwad ffôn, ffôn symudol, ebost,  neges destun, ffacs neu alwr.  I gofrestru galwch  0845 988 1188 neu ewch i  www.environment-agency.gov.uk.

 

  • Mae rhybuddion lifogydd yn cael eu darlledu ar y teledu a'r radio fel rhan o'r bwletinau tywydd a theithio rheolaidd; gwefan yr Asiantaeth www.environment-agency.gov.uk/floodwarning, ITV Teletext (Tudalen 169) a BBC Ceefax (Tudalen 419). At hyn, mae gan yr  Asiantaeth linell gwybodaeth 24 awr sydd yn rhoi gwybodaeth am Rybuddion Llifogydd ar hyd a lled Cymru a Lloegr.  Gallwch wrando ar y rhybuddion yn eich ardal chi ar unrhyw adeg neu siarad â thriniwr galwadau 24 awr y dydd trwy alw  Floodline 08459 88 11 88.

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen