Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dihangfa lwcus i deulu o Ynys Môn yn dilyn tân sosban sglodion

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn amlygu peryglon sosbenni sglodion a gallu larymau mwg i arbed bywydau wedi i deulu o Ynys Môn gael dihangfa lwcus  o dân yn eu cartref.

Cafodd diffoddwyr tân o Gaergybi, Rhosneigr a Llangefni  eu galw i dân mewn tŷ yn Queens Park, Caergybi am 06.43o'r gloch Ddydd Sul  23 Medi.

Cychwynnodd y tân wedi i sosban sglodion gael ei gadel heb neb i gadw llygaid arni.  Cafodd y preswylwyr, cwpl a'u mhab, eu rhybuddio am y tân gan larwm mwg a oedd wedi ei osod yn yr eiddo.  Derbyniodd y ddynes driniaeth yn y fan a'r lle oherwydd ei bod wedi anadl mwg.

Defnyddid y diffoddwyr tân un brif bibell ddŵr, offer diffodd tân carbon deuocsid a dau set o offer anadlau i ddelio gyda'r tân a achosodd ddifrod mwg sylweddol yn y gegin.  

MeddaiTerry Williams, Rheolwr Diogelwch Cymunedol gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Roedd y teulu'n lwcus iawn.  Disgynnodd y mab i gysgu ar ôl gadel y sosban sglodion ymlaen wedi iddo ddychwelyd adref ar ôl noson allan - y larwm mwg a rybuddiodd pawb am y tân.

Yn 2007, bu farw Sean Bowers, 24, o Benyffordd ac Andrew Roberts, 39, o Rhuthun, y dilyn tanau yn y cartref - roedd y tanau hyn wedi eu hachosi gan sosbenni sglodion a oedd wedi eu gadael heb neb i gadw llygaid arnynt.

"Rydw i'n eich cynghori i gael gwared â'ch hen sosban sglodion - mae ffrïwyr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r gwres yn opsiwn llawer mwy diogel.

"Ymhen ychydig funudau, gall yr olew yn y sosban orboethi a mynd ar dân.  Gall tân bychan ddatblygu i fod yn dân difrifol iawn sydd yn bygwth bywydau yn gyflym iawn - os byddwch yn cysgu  pan fydd y tân yn cynnau yn byddwch mewn trybini mawr.  Byddwch yn anymwybodol wedi i chi  anadlu dim ond  ychydig o fwg.

"Y ffordd orau i sicrhau y gallwch adael yn ddiogel yw gosod larwm mwg gweithredol yn eich cartref.   I gofrestru am larwm mwg am ddim, galwch ein llinell  rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen