Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Llusern bapur yn achosi difrod i eiddo yn Sir y Fflint

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhybuddio am beryglon llusernau papur Tsieineaidd wedi i ddiffoddwyr tân gael eu galw i eiddo yn Sir y Fflint.

Cafodd criw o Lannau Dyfrdwy eu galw i'r eiddo yn Ewlo am 09.18 o'r gloch ddydd Sadwrn 15 Medi.  Roedd y perchennog wedi deffro a gweld bod yr ystafell wydr yn llaw mwg, ond erbyn i'r criw gyrraedd roedd y tân wedi ei ddiffodd.

Wedi archwiliad i achos y tân canfuwyd bod llusern Tsieineaidd wedi glanio ar do'r ystafell wydr ac wedi llosgi drwy'r strwythur plastig, gan adael malurion ar y llawr.

Defnyddir llusernau Tsieineaidd i ddathlu ac maent wedi eu gwneud o bapur.  Maent yn symud yn y gwynt gan eu bod mor ysgafn, ac yn cael eu tanio gan ganhwyllau bychan neu olew y tu mewn iddynt.

Meddai Paul Whybro, Rheolwr Diogelwch Cymunedol gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'r llusernau papur hyn yn hynod boblogaidd, ond maent yn beryglus iawn ac felly rydym yn erfyn ar i'r cyhoedd gymryd pwyll gyda hwy.

                                     

"Roedd y fenyw yn ffodus iawn gan y gallai'r digwyddiad hwn fod wedi bod yn llawer mwy difrifol. Llosgodd y llusern drwy'r ystafell wydr tra'r oedd hi'n cysgu ac roedd wedi bod yn mudlosgi am rhai oriau - hap a damwain oedd hi fod y cwyr poeth wedi glanio ar y llawr ac nad oedd y dodrefn wedi mynd ar dân.  Gallai ei chartref fod wedi cael ei losgi'n ulw.

 

"Gwrandwch ar ein cyngor.  Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw un yn sefyll  o dan y llusern wrth i chi ei thanio gan y gallai'r olew'n neu'r cwyr arllwys o'r llusern a'u hanafu.   Ystyriwch o ba gyfeiriad y mae'r prifwynt yn dod er mwyn gwneud yn siŵr na fydd  y llusern yn glanio ar eiddo neu ffermydd - gallant hefyd beryglu cnydau neu anifeiliaid.    Meddyliwch am y peryglon a gofynnwch ichi eich hun a allwch chi gyfiawnhau tanio'r llusern.

 

"Cofiwch hefyd wneud yn siŵr bod gennych larwm mwg gweithredol i'ch amddiffyn chi rhag tân yn y  cartref.  Cewch drefnu archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim drwy alw Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 0800 169 1234 neu fynd i www.larwmwgamddim.co.uk."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen