Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gorsaf Dân yn ail-lansio’r Clwb Cinio

Postiwyd

Croesawyd pobl hŷn i Orsaf Dân Dolgellau yr wythnos hon lle cynhaliwyd y Clwb Cinio cyntaf ar gyfer 2012  - clwb i bobl leol dros 55 mlwydd oed.

Lansiwyd y clwb misol hwn am y tro cyntaf yn 2010, ac roedd yn boblogaidd iawn ymysg trigolion lleol. Cafodd y clwb ei ail-lansio ddydd Mercher, Medi 13 ac roedd y pensiynwyr lleol wedi gwirioni.  

Mae'r clwb yn cael ei drefnu gan Glwb Rotari Dolgellau a Delwyn Evans, cyn faer y dref, ynghyd â chefnogaeth gan staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.

Meddai'r Cynghorydd Delwyn Evans: "Yn aml iawn mae heneiddio'n gysylltiedig ag anabledd neu golli annibyniaeth.  Yn aml iawn mae amhariadau megis problemau symudedd neu golli clyw neu olwg yn golygu na all pobl fynd o le i le fel ac yr oeddent yn arfer ei wneud ac o'r herwydd mae nifer o bobl yn teimlo'n unig.  

"Fe benderfynom sefydlu'r Clwb Cinio er mwyn rhoi cyfle i drigolion hŷn fyw bywyd cymdeithasol iach ac annibynnol gyhyd ag y bo modd, a sicrhau eu bod yn derbyn prydau bwyd iachus a ffres."

Fe ychwanegodd Celfyn Evans, Arweinydd y Tîm Diogelwch Cymunedol dros Wynedd ac Ynys Môn gyda Gwasanaeth Tân ac Achub  Gogledd Cymru: "Fel Gwasanaeth Tân ac Achub rydym yn awyddus iawn i weithio gyda'r gymuned a thrwy gynnal y Clwb Cinio yn yr orsaf dân cawn gyfle i siarad gyda phobl leol fregus a hŷn  er mwyn ei hysbysu am bwysigrwydd diogelwch tân yn y cartref.  

"Mae'r fenter newydd hon yn ganolog o safbwynt meithrin perthynas glos gyda thrigolion hŷn a rhannu cyngor a gwybodaeth allweddol a all achub bywydau'r bobl sydd yn mynychu'r Clwb Cinio yn ogystal â'u ffrindiau a'r bobl y maent yn eu hadnabod."

 

Roedd Elsie Jones, 84 o Ardd Fawr Dolgellau yn bresennol yn y clwb cinio cyntaf ynghyd â'i chwaer Adelaide Cleridge. Meddai: "Rydym wedi mwynhau'r cinio'n arw ac mae wedi bod yn braf cael cyfle i weld hen ffrindiau a chwrdd â phobl newydd.

 

"Mae yn ffordd dda o gael gafael ar wybodaeth ar sut i gadw mor ddiogel â phosibl yn y cartref."

 

Mae'r partneriaid sydd ynghlwm â'r fenter hon yn cynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Aelodau o Dîm Plismona Cymunedol Meirionnydd, Clwb Rotari Dolgellau, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Gwynedd, Cyngor ar Bopeth Gwynedd, Cyngor Cymunedol Dolgellau, a chynrychiolwyr pobl hŷn o Ddolgellau.

 

Mae'r Clwb Cinio yn yr Orsaf Dân yn rhoi cyfle i bobl o Ddolgellau a'r cyffiniau brynu pryd o fwyd tri chwrs ar ddyddiau Mercher pob mis, yn ogystal â gwrando ar gyflwyniadau ar bynciau perthnasol.  Rydym hefyd yn gobeithio y bydd gan y bobl hŷn syniadau ar gyfer y math o weithgareddau yr hoffent i ni eu cynnal.

 

Gan fod llefydd yn brin, cynghorir pobl  i archebu lle drwy gysylltu â'r Cynghorydd Delwyn Evans, ar 01341 422 498.

 

Mae modd cyrraedd yr orsaf drwy fynd ar Fws y Dref sydd yn stopio ger yr Orsaf Dân am 11.36am ac yn gadael am 13.36pm ac 14.31pm.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen