Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cael golchi eich car a chodi arian at achos da!

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân y Gogledd yn paratoi i dorchi eu llewys i gymryd rhan yn yr Olchfa Geir Genedlaethol yr wythnos hon, er mwyn codi arian i Elusen y Diffoddwyr Tân.

Mae'r Olchfa Geir Genedlaethol yn eitem sefydlog ar galendr y gwasanaeth tân ac achub. Dyma un o brif ddigwyddiadau codi arian yr elusen. Gwahoddir gyrwyr i fynd draw i'w gorsaf leol i gael golchi eu ceir am gyfraniad i Elusen y Diffoddwyr Tân.  Mae'r Elusen yn darparu gwasanaethau blaenllaw sydd yn gwella ansawdd bywyd personél y gwasanaeth tân a phersonél sydd wedi ymddeol, ynghyd â'u teuluoedd.

Bydd gorsafoedd ar hyd a lled y rhanbarth yn cymryd rhan yn y digwyddiad a fydd yn cymryd lle ar Sadyrnau drwy gydol y mis.  Bydd nifer o orsafoedd hefyd yn rhoi cyfle i'r rheiny sydd yn dod draw i gael golchi eu ceir gymryd rhan mewn raffl am gyfle i ennill ymweliad â'r orsaf leol.

Meddai Paul Claydon, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol: " Mae'r arian a godir drwy fetrau cenedlaethol fel hyn yn hwb mawr i Elusen y Diffoddwyr Tân.  Yn ogystal â digwyddiad poblogaidd a llawn hwyl i'r elusen, mae'r Olchfa Geir Genedlaethol yn rhoi cyfle i'n diffoddwyr tân rhannu cynghorion diogelwch pwysig gyda'r gymuned leol.

"Rydym yn falch bod cymaint o'n gorsafoedd yn cymryd rhan ac rydym yn awyddus i annog pobl leol i gefnogi'r digwyddiad hwn.  Bydd eich cyfraniad yn helpu miloedd o ddynion, merched a phlant yn y gymuned tân ac achub pan fyddant mewn angen."

Mae'r gorsafoedd canlynol yn cymryd rhan yr olchfa geir:

Gwynedd

Gorsaf Dân Bangor - 29/09/12 - 10am- 3pm

Gorsaf Dân Caernarfon - 29/09/12 - 10am- 3pm

Gorsaf Dân Pwllheli- 22/09/12 - 9am- 1pm

Gorsaf Dân Blaenau Ffestiniog - 29/09/12 - 10am- 2pm

Gorsaf Dân Porthmadog- 22/09/12 - 10am- 3pm

Gosaf Dân Y Bala - 29/09/12 - 10am (Maes Parcio'r Grîn ger yr Orsaf dân)

 

Ynys Môn

Gorsaf Dân Caergybi- 15/09/12 - 1pm- 5pm

Gorsaf Dân Llangefni- 15/09/12 - 10am- 1pm

Gorsaf Dân Biwmares- 29/09/12 - 11am- 2pm

Gorsaf Dân Benllech -29/09/12

Wrecsam

Gorsaf Dân Wrecsam  -29/09/12

Sir y Fflint

Gorsaf Dân Glannau Dyfrdwy- 22/09/12 - 1pm

Gorsaf Dân Treffynnon- 22/09/12 - 9.30am - 4.00pm

Conwy

Gorsaf Dân Llandudno- 22/09/12

Gorsaf Dân Bae Colwyn- 22/09/12

Gorsaf Dân Cerrigydrudion- 15/09/12  9.30am - 3pm

Sir Ddinbych

Gorsaf Dân Y Rhyl- 22/09/12 - 10am - 2pm

Gorsaf Dân Rhuthun- 15/09/12 - 9am - 1pm

Fe ychwanegodd John Parry, Prif Weithredwr Elusen y Diffoddwyr Tân: "Mae'r Olchfa Geir Genedlaethol yn ffynhonnell incwm hollbwysig i'r elusen, yn ogystal  digwyddiad llawn hwyl sydd gan neges ddiogelwch difrifol.  Fel elusen, rydym yn dibynnu ar gyfraniadau gan y cyhoedd a'r gymuned tân ac achub. Hoffwn annog aelodau'r cyhoedd i gefnogi ein diffoddwyr tân drwy fynd draw i'w gorsaf leol - a gyrru oddi yno'n ddiogel, mewn car glân!"  

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen