Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd i bobl sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig yn dilyn y tân yn Nob

Postiwyd

Credir mai'r hyn a achosodd y tân oedd tân agored wedi ei orlwytho â chardfwrdd a phapur.

Meddai Ian Williams, Pennaeth Ymateb gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

"Mae gofyn i bobl sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig fod yn hynod wyliadwrus mewn perthynas â diogelwch tân a sicrhau bod ganddynt larymau mwg yn eu cartrefi a'u bod yn gyfarwydd â'u cynllun.

"Os canfyddwch dân mae'n hynod bwysig eich bod yn ymateb yn gyflym, yn enwedig os ydych yn byw mewn ardal wledig - ewch allan, arhoswch allan a galwch 999 ar unwaith.  

"Mae'n anodd iawn cael gafael ar gyflenwadau dwr mewn ardaloedd gwledig neu anghysbell - roedd hyn yn wir yn achos y tân yn Nob ddoe.  Fe gyrhaeddodd y criwiau mewn da bryd gan weithio'n galed i atal y tân rhag lledaenu i'r tŷ drws nesaf, ond fe achoswyd difrod tân sylweddol i'r tŷ.  

"Mae hefyd yn hanfodol bwysig sicrhau bod modd i'r gwasanaethau brys ddod o hyd i'ch cartref - gwnewch yn siŵr bod dail a gwrych wedi eu torri ger mynedfa'ch cartref a bod enw'r tŷ mewn man amlwg.   "Credir mai tân agored wedi ei orlwytho â phapur a chardfwrdd oedd achos y tân - mae'n bwysig peidio â gorlwytho tanau agored a dylid defnyddio gard tân os oes modd.

"Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref, rhannu cynghorion diogelwch tân , eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg am ddim os oes raid - a'r cyfan am ddim.  I gofrestru galwch 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk. Mae modd i chi gofrestru gan ddefnyddio'ch ffon symudol yn ogystal drwy fynd i www.larwmmwgamddim.org.uk.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen