Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwyr tân yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chartrefi Conwy

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda  Chartrefi Conwy i wneud yn siŵr bod eu tenantiaid yn cael eu cadw mor ddiogel â phosibl rhag tân.

Yn dilyn y cytundeb sydd yn datgan y bydd unrhyw denantiaid newydd yn cael eu cofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim yn awtomatig, mae diffoddwyr tân a Chartrefi Conwy wedi cryfhau eu partneriaeth drwy dreulio'r diwrnod yn siarad gyda thrigolion yn Llanfair Talhaearn am ddiogelwch tân.

Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar gael i brofi larymau mwg a rhannu cynghorion diogelwch tân. Yn ogystal â  hyn roedd staff Cartrefi Conwy yn bresennol ynghyd â Catrin eu swyddfa symudol.  Roedd modd iddynt gwrdd â'u cleientiaid a thrafod unrhyw faterion a oedd yn deillio o'r archwiliad diogelwch tân.  

Meddai Tom Pye, Rheolwr Partneriaeth Conwy a  Sir Ddinbych gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae ein hymweliad â  Llanfair Talhaearn wedi bod yn ffordd wych o atgyfnerthu ein perthynas â Chartrefi Conwy a gwneud yn siŵr bod eu tenantiaid yn cael eu cadw mor ddiogel â phosibl rhag tân - mae pob tenant newydd yn cael ei gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn awtomatig, a thrwy dargedu ardaloedd yn y modd hwn rydym yn gobeithio y gallwn wneud yn siŵr bod tenantiaid a thenantiaid newydd yn derbyn gwybodaeth am ddiogelwch tân.

"Mae'r gefnogaeth a dderbyniwn gan sefydliadau fel Cartrefi Conwy yn amhrisiadwy - mae'n bwysig ein bod yn lledaenu ein negeseuon diogelwch hanfodol yn ein cymunedau ac maent yn rhan annatod o'r gwaith hwn.  

"Rydym wedi cael ein galw i nifer o danau gwledig yn y misoedd diwethaf ac felly fe benderfynom gychwyn ein sioe deithiol yn Llanfair Talhaearn - mae'n bwysig bod trigolion sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig yn ymwybodol o ddiogelwch tân gan fod  cyflenwadau dŵr a  mynediad yn achosi problemau yn yr ardaloedd hyn.

"Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda  Chartrefi Conwy er mwyn gwneud yn siŵr bod trigolion ar hyd a lled ein rhanbarth yn cael eu cadw mor ddiogel â phosibl rhag tân yn y cartref."

Mae'r sefydliadau'n bwriadu dod at ei gilydd eto yn ystod ymweliadau tebyg dros y misoedd nesaf.

Fe ychwanegodd Will Prichard, Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch gyda  Chartrefi Conwy: "Heddiw rydym wedi cadarnhau'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhyngom ni a Gwasanaeth Tân Achub Gogledd Cymru ac rydym yn falch iawn o gael gweithio mewn partneriaeth gyda hwy i helpu i amddiffyn ein trigolion.

"Mae iechyd a diogelwch ein tenantiaid yn un o'n prif flaenoriaethau ac mae gweithredu yn y modd rhagweithiol hwn yn dyst i'n hymrwymiad i gadw pobl yn ddiogel rhan tanau yn y cartref."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen