Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Digwyddiad cemegol yn Llangefni

Postiwyd

Mae'r gwasanaethau brys wedi cael eu galw i ddigwyddiad ar Ystâd Ddiwydiannol Llangefni, Ynys Môn

Fe anfonodd Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru saith o beiriannau tân ( o Langefni, Bangor, Caergybi, Porthaethwy a Rhosneigr) yn ogystal â thri pheiriant arbenigol ( yn cynnwys yr Uned Amddiffyn yr Amgylchedd o'r Rhyl) i'r digwyddiad am  21.09 o'r gloch heno ( Dydd Llun 13eg Awst). Roedd staff o Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru hefyd yn bresennol.

Cafodd rhywfaint o nwy amonia ei ryddhau o'r safle cynhyrchu bwyd ar yr ystâd ddiwydiannol

Fe wisgodd y diffoddwyr tân ddillad gwarchodol ac offer anadlu i ynysu ac atal y gollyngiad rhag lledaenu i fannau eraill ar y safle drwy wasgaru dŵr ar y cwmwl anwedd.

Fe gynghorwyd trigolion lleol i beidio â mentro allan a chadw ffenestri a drysau ynghau hyd nes y byddai hysbysiad pellach.

Roedd 20 o bobl yn gweithio ar y safle ar y pryd, a llwyddodd pob un i adael yr adeilad  yn ddiogel.  

Yn achos  digwyddiadau o'r fath, rhan o'r drefn arferol yw gwneud yn siŵr bod trefniadau mewn lle i sicrhau bod unrhyw un sydd yn dioddef o symptomau cysylltiedig (ee llygaid yn dyfrio) yn derbyn triniaeth ac yn cael ei ddadhalogi yn y fan a'r lle cyn cael ei gludo i'r ysbyty os oes angen.  

Fe dderbyniodd bedwar o drigolion lleol  - dau oedolyn a dau blentyn -  a oedd yn dioddef o'r fath symptomau driniaeth gan barafeddygon yn y fan a'r lle.  Cafodd pobl eraill a oedd mewn clwb cymdeithasol lleol hefyd eu cynghori i gael triniaeth os oeddent hwythau'n dioddef o'r un symptomau.

Bydd y gwasanaethau brys yn aros yn y fan tra bod asesiadau pellach yn cael eu cwblhau.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen