Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diwrnod Agored yng Ngorsaf Dân Gymunedol y Rhyl

Postiwyd

Bydd Gorsaf Dân Gymunedol y Rhyl yn agor ei drysau am ddiwrnod o hwyl i'r teulu rhwng 11am a 4pm Dydd Sadwrn, 25ain Awst.

Bydd diffoddwyr tân yn ymuno â staff Heddlu Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a'r RNLI ar y diwrnod a bydd ymwelwyr yn cael cyfle i gael gwybod mwy am waith y gwasanaethau brys.

Hefyd, bydd yr offer a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys yn cael eu harddangos gan staff.

Mae gweithgareddau wedi eu trefnu yn cynnwys gemau, raffl (gwobrau yn rhodd gan fusnesau lleol), peintio wynebau ac arddangosfa gymnasteg.  Bydd lluniaeth hefyd ar gael.

Mae mynediad yn rhad ac am ddim, a bydd unrhyw arian a godir ar y diwrnod yn mynd tuag at Hosbis St Kentigerns.

Bydd y bobl fydd yn galw heibio yn cael cyfle i gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim, yn ogystal â chael cyngor diogelwch tân.

Meddai Richie Westwood, Rheolwr Gwylfa, y Wylfa Werdd, yn y Rhyl: "Rydym yn falch o gael gweithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a'r RNLI ar y diwrnod agored cymunedol hwn a hoffwn weld cymaint o bobl â phosib yn galw yng Ngorsaf Dân Gymunedol y Rhyl i gael gwybod mwy am y gwaith yr ydym yn ei wneud i gadw ein cymuned mor ddiogel â phosibl."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen