Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gweithio mewn partneriaeth yn Sioe Môn

Postiwyd

Mae modd i bobl sydd yn ymweld â Sioe Môn eleni alw ym mhabell Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ynys Môn lle mae nifer o bartneriaid wedi dod at ei gilydd i rannu cyngor a gwybodaeth ar nifer o bynciau gwahanol yn amrywio o ddiogelwch tân i atal troseddau.

 

Mae sefydliadau yn cynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Tîm Diogelwch Cymunedol Ynys Môn, Cymorth i Ddioddefwyr, Gwasanaeth Prawf Cymru, Panel Atal Troseddau Ynys Môn, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Gorwel, Tîm Diogelwch Ffyrdd a'r Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau  wedi dod at ei gilydd i'w gwneud hi'n haws i'r cyhoedd ddod o hyd i wybodaeth dan yr un to.

 

Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau megis cwis diogelwch yr haf, marcio diogelwch a thorchau allwedd olion bysedd yn ogystal â chael gafael ar nifer o daflenni gwybodaeth sy'n ymdrin ag ystod eang o bynciau.  Rydym yn annog ffermwyr Ynys Môn i ddod i'r stondin i gofrestru i fod yn rhan o'r cynllun Diogelu Ffermydd.  

 

Meddai Tony Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol: "Dyma'r ail dro i'r sefydliadau hyn ddod at ei gilydd a rhannu pabell.  Roedd yr ymateb gan y cyhoedd yn hynod bositif y llynedd ac rydym yn mawr obeithio y bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i bobl ddod o hyd i'r holl sefydliadau eto eleni gan y byddwn i gyda o dan yr un to .  Rydym mewn lle amlwg gyferbyn â'r brif gylch felly os ydych yn dod i'r sioe dewch draw i'n gweld am gyfle i ennill pabell."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen