Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaethau tân ac achub yn ymuno â’r ymgyrch larwm tân newydd

Postiwyd

Mae'r tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru wedi uno er mwyn lansio cyfleuster newydd ar-lein i hybu pobl i gael larwm tân a helpu i achub bywydau.

Mae aelodau'r cyhoedd eisoes yn gallu ffonio 0800 169 1234 i wneud cais am archwiliad diogelwch tân am ddim yn y cartref, ond nawr mae gwefan newydd yn cael ei lansio fydd yn ei gwneud yn haws i drigolion gadw'n ddiogel rhag tân.

Yn fwy na hynny, mae'r gwasanaeth newydd yn cyd-fynd â ffonau deallus, fel y gall pobl gofrestru yn unrhyw le.

Caiff www.freesmokealarm.co.uk ei lansio heddiw (25ain Gorffennaf) yn Sioe Frenhinol Cymru, a bydd unrhyw un sy'n galw heibio i stondin y gwasanaeth tân ac achub, yn gallu ymuno ar-lein i gofrestru am archwiliad am ddim - neu sganio cod ymateb cyflym a chofrestru gan ddefnyddio ffôn deallus.

Dywedodd Martin Henderson o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, sef arweinydd cyfathrebiadau ar gyfer Cymdeithas y Penaethiaid Tân yng Nghymru, "Rydym wedi dod at ein gilydd eto i gyflwyno un neges gref i drigolion Cymru bod larymau tân yn achub bywydau.

"Mae gan y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru un nod cyffredin sydd wrth wraidd popeth a wnawn - gweithio gyda'n gilydd i greu Cymru fwy diogel.

"O gofio hyn, yn ogystal â chyfoeth o enghreifftiau o gydweithio sydd eisoes ar y gweill ledled Cymru, rydym wedi lansio'r cyfleuster newydd hwn i'w gwneud hi'n haws i unrhyw un yng Nghymru gysylltu â'u gwasanaeth tân ac achub lleol i drefnu ymweliad diogelwch tân yn y cartref.

"Mae'r safle newydd yma yn ein galluogi i weithio gyda'n gilydd i dynnu sylw at bwysigrwydd archwiliad diogelwch tân yn y cartref, gan roi un llais i'r negeseuon allai achub bywydau, gan obeithio y bydd hwnnw'n llais cryf ac amlwg.

"Cafod y safle ei beilota yng Ngogledd Cymru lle mae eisoes wedi ei sefydlu o fewn graddfeydd peiriannau chwilio. Oherwydd bod trigolion yn gallu mynd yn syth at y safle hwn, mae llai o waith clicio rhwng y syniad a chyflwyno'r gwasanaeth - gan roi gwell profiad i'r cwsmer. A gellir cael mynediad ato drwy'r prif wefannau unigol gan y tri gwasanaeth tân ac achub.

"Mae'r swyddogaeth ychwanegol ar ffonau deallus yn galluogi trigolion i gofrestru ar gyfer archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim, tra byddant o gwmpas y lle. Y gobaith yw y bydd hyn yn ein rhoi ar flaen y gad gyda'r dechnoleg gyfoes i greu cyswllt â'n cymunedau."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen