Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl i achwyn am losgwyr ym Mharc Gwepre

Postiwyd


Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn apelio ar i drigolion yng Nghei Connah fod yn wyliadwrus ac achwyn am losgwyr yn dilyn dau ddigwyddiad o losgi bwriadol yn yr ardal Parc Gwepre.  

Rydym wedi cael gwybod am nifer o ddigwyddiadau yn ymwneud â chynnau tanau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ddiweddar lle mae eitemau wedi cael eu rhoi ar dân yn fwriadol.

Meddai Kevin Jones, Rheolwr y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol: "Mae troseddau fel hyn yn peryglu bywydau'r rhai sydd yn cymryd rhan yn y weithred yn ogystal â bywydau'r diffoddwyr tân sydd yn cael eu hanfon i ddiffodd y tanau.
"Rydym yn gweithio'n agos gyda thimau plismona lleol i fynd i'r afael â'r broblem o gynnau tanau bwriadol - mae llosgi bwriadol yn drosedd ddifrifol a byddwn ni, mewn cydweithrediad â Heddlu Gogledd Cymru, yn erlyn drwgweithredwyr."

Gofynnir i  unrhyw un sydd gan wybodaeth am bobl sydd yn mynd ati i gynnau tanau bwriadol gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu yn ddienw drwy alw Crimestoppers ar 0800 555 111.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen