Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ethol cadeirydd newydd ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Postiwyd

Etholwyd Cynghorydd Sirol Ynys Môn, Aled Morris Jones, yn Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Awdurdod Tân ac Achub, a gynhaliwyd yn Siambr Cyngor Ynys Môn, Llangefni yn gynharach heddiw (dydd Llun 18fed Mehefin).

Mae'r Cynghorydd Morris Jones yn cymryd lle Sharon Frobisher, Cynghorydd Sir Ddinbych, a  fu'n Gadeirydd gyda'r Awdurdod am dair blynedd.

Yn ogystal â gwasanaethu mewn llywodraeth leol am bum mlynedd ac fel Cynghorydd Cymunedol yn Rhosybol am dros 23 o flynyddoedd, mae'r Cynghorydd Morris Jones wedi gwasanaehu ar yr awdurdod tân ac achub am bediar blynedd ac wedi gwasanaehu fel is-gadeirydd am y dair blynedd ddiweddaf.  

Mae wedi ei ethol i wasanaethu fel Cadeirydd dros y 12 mis nesaf. Dywedodd: "Mae wedi bob yn bleser cael gweithio gyda'r Awdurdod dros y beair blynedd ddiwethaf.  Rydym wedi gweitho'n galed i sicrhau bod Gogledd Cymru yn lle diogelach dros gyfnod anodd iawn yn ddiweddar.  

Mewn llywodraeth leol mae'n hanfodol ein bod yn cydweithio, ac y mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn enghraifft wych o waith ar y cyd.  Dwi'n credu bod Gogledd Cymru yn lle digon bach  i boeni, ond digon mawr i gyfrif a dyma sydd yn greiddiol i waith yr Awdurdod."  

Etholwyd  Cynghorydd Sirol Sir Ddinbych, Meirrick Lloyd Davies, yn Is-gadeirydd newydd. Fe ymunodd y Cynghorydd Davies â'r Awdurdod Tân ac Achub yn 1999 ac y mae hefyd wedi treulio cyfnod yn is-gadeirydd.  Roedd hefyd yn gadeirydd Cyngor Sirol Sir Ddinbych rhwng 2004 a 2005 a rhwng 2010 a 2011.  Meddai :" Fel Is-gadeirydd newydd rydw i'n edrych ymlaen at gael tynnu ar fy mhrofiad sylweddol fel aelod o'r Awdurdod, cyn Is-gadeirydd ac aelod o'r is-bwyllgorau yr ydw i wedi bod yn rhan ohonynt dros y blynyddoedd.

" Fy mlaenoriaeth fydd cefnogi'r Cadeirydd, y Prif Swyddog Tân a'r aelodau i sicrhau bod Gogledd Cymru yn parhau i fod yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen