Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl am ddiffoddwyr tân rhan amser yng ngorsafoedd tân Betws y Coed a Thywyn

Postiwyd

Ydych chi'n barod am sialens ac yn awyddus i ennill rhagor o arian?

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am annog pobl  sydd yn byw yn Nhywyn, De Gwynedd a Betws Y Coed yng Nghonwy i ystyried gyrfa fel diffoddwr tân rhan amser.

Mae gorsafoedd tân Tywyn a Betws Y Coed yn dymuno recriwtio diffoddwyr tân ran amser sydd yn byw neu'n gweithio yn agos at y gorsafoedd hyn ac a all gyrraedd y gorsafoedd o fewn 5-6, boed hynny mewn car, ar droed neu ar feic, er mwyn amddiffyn y gymuned leol.  Maent yn awyddus i glywed gan unigolion brwdfrydig iawn sydd gan ddiddordeb mewn gweithio fel diffoddwyr tân rhan amser yn eu gorsaf leol.

Mae John Morgan, Rheolwr Ymateb dros Dde Gwynedd a Russ Vaughan, Rheolwr Ymateb dros Gonwy, yn egluro mwy: "Mae personél rhan amser yn ddiffoddwyr tân cymunedol sy'n darparu gwasanaeth tân a brys hanfodol wrth gefn i ardal eu gorsaf dân. Rydym ni'n edrych am bobl addas, yn enwedig pobl sy'n gallu derbyn galwad  yn ystod oriau dydd, a bod ar gael yn ystod y nos ac ar benwythnosau."

" Yn ogystal â'u swyddi arferol, allai fod yn adeiladwyr, gweithwyr siop, gweithwyr ffactri, nyrsys neu wragedd tŷ, mae diffoddwyr tân rhan amser ar gael i fynychu digwyddiadau brys pan fo'r angen."

"Maent yn bersonél medrus iawn sydd wedi eu hyfforddi i achub bywydau ac amddiffyn rhag tân at safon uchel iawn.  Mae diffoddwyr tân rhan amser yn daprau arbenigedd mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd, rheilffyrdd ac awyrennau, gollyngiadau cemegol, llifogydd, coedwigoedd, tanau rhostir a mynydd, damweiniau amaethyddol ac achub anifeiliaid.


" Rydym ni'n edrych am recriwtiaid benywaidd a gwrywaidd sy'n frwdfrydig ac yn gallu arddangos synnwyr cyffredin, ymrwymiad ac ymroddiad.  Byddan nhw'n ymuno â thîm agos, wedi eu hyfforddi o'r radd flaenaf sy'n gweithio gydag offer modern a thechnegol.  Byddan nhw'n cymryd rhan yn y gwaith atal tân rydym ni'n wneud yn y gymuned i atal tân rhag cychwyn hefyd."

Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed o leiaf, gan feddu ar safon dda o ffitrwydd corfforol a'r gallu i basio profion tueddfryd.  Yn ychwanegol i'w ffioedd misol, gwneir taliadau am ymgynnull, mynychu a nosweithiau ymarfer.


Mae gweithwyr yn ymwybodol o swydd hanfodol y gwasanaeth tân ac achub rhan amser o fewn cymunedau lleol ac mae llawer yn rhyddhau staff i ymgymryd â dyletswyddau diffodd tân a brys eraill.


Gwahoddir unrhyw un sydd gan ddiddordeb mewn gyrfa fel diffoddwr tân yng ngorsaf dân Tywyn i'r diwrnod agored a gynhelir yn yr orsaf Ddydd Mawrth 26ain Mehefin 2012 rhwng 10:00am a 4.00pm. Fe ddylai unrhyw un sydd yn dymuno cael gafael ar ffurflen gais gysylltu â Mary Morris ar 01745 535263 (yn ystod oriau swyddfa 9:00am-5.00pm) neu anfon e-bost at mary.morris@gwastan-gogcymru.org.uk.

Gwahoddir unrhyw un sydd gan ddiddordeb mewn gyrfa fel diffoddwr tân yng ngorsaf dân Betws Y Coed i'r diwrnod agored a gynhelir yn yr orsaf Ddydd Gwener 22ain Mehefin 2012 rhwng 10:00am a 4.00pm. Fe ddylai unrhyw un sydd yn dymuno cael gafael ar ffurflen gais gysylltu â Carol Swain ar 07825203962 neu Mary Morris ar 01745 535263 (yn ystod oriau swyddfa 9:00am-5.00pm) neu anfon e-bost at mary.morris@gwastan-gogcymru.org.uk.

Am ragor o fanylion am yrfa fel diffoddwr tân rhan amser mewn gorsafoedd ar draws Gogledd Cymru, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen