Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân yn ymwneud a Silindr Asetylen yn Wrecsam

Postiwyd

Cafodd criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i dân yn ymwneud a silindr asetylen yn Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam y bore yma, Dydd Mercher 13 Mehefin.
Cafodd tri pheiriant - dau o Wrecsam ac un o Johnstown -eu hanfon i'r digwyddiad mewn man weldio ar safle diwydiannol ar Ash Road North am 09.58o'r gloch.
Roedd y tân dan reolaeth yn gyflym iawn ac mae'r gwaith o oeri'r silindr yn mynd rhagodi ar hyn o bryd, ynghyd â gwaith rhagofalol i oeri silindrau nwy cyfagos sydd wedi ei symud i fan arall erbyn hyn.
Roedd yn rhaid i holl bersonél y ffatri adael yr adeilad gyda help Heddlu Gogledd Cymru ond maent bellach wedi dychwelyd yn ôl i'w gwaith.
Cafwyd difrod i'r silindr yn unig.  MAe'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod am y digwyddiad.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen