Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd yn dilyn dau dân a achoswyd gan sosbenni sglodion

Postiwyd

Unwaith eto mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhybuddio pobl o beryglon sosbenni sglodion ac yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg yn dilyn tân cegin yng Nghoedpoeth, ger Wrecsam.

Cafodd diffoddwyr tân o Wrecsam eu galw i eiddo yn Middle Road, Coedpoeth, Ddydd Gwener 24ain Mai am 01.10 o'r gloch ar ôl i sosban sglodion gael ei gadael heb neb yn gofalu amdani.

Derbyniodd tri o bobl a oedd yn yr eiddo ar y pryd, sef nain a thaid yn eu 60au a'u hŵyr 22 mlwydd oed, driniaeth yn y fan a'r lle ar ôl anadlu mwg.

Meddai Mike Hough o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Roedd y preswylwyr yn ffodus iawn eu bod wedi llwyddo i ddianc o'r digwyddiad hwn yn ddiogel.  Roedd eu hŵyr yn cysgu ar y soffa ar y llawr isaf ac ni chafodd ei ddeffro gan sŵn y larwm mwg yn seinio.  Yn ffodus iawn clywodd ei nain a'i daid y larwm ac o'r herwydd llwyddodd y trin ohonynt i adael yr eiddo mewn pryd. "

"Pe nai byddai'r larymau mwg wedi seinio, mae'n ddigon posib y byddem yn delio gyda digwyddiad trasig arall.

"Rwyf yn cynghori pawb i wrando ar ein negeseuon diogelwch.  Mae gennym neges glir - taflwch eich sosbenni sglodion, peidiwch byth â gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno, hyd yn oed am eiliad, peidiwch â choginio os ydych wedi bod yn yfed a gwnewch yn siŵr bod gennych larwm mwg.  Gallai'r digwyddiad hwn fod wedi bod yn fwy difrifol o lawr."

Dyma oedd yr ail ddigwyddiad y cafodd diffoddwyr tân eu galw iddo ddoe (24 Mai).  Digwyddodd y digwyddiad arall yn Y Waun, Harlech am 16.49 o'r gloch, a chafodd criwiau o Harlech ac Abermaw eu galw yno.  Roedd person ifanc 18 mlwydd oed wedi gadael sosban sglodion heb neb i gadw llygaid arni.  Pan ddaeth ei rieni adref roedd y gegin yn llawn mwg.  Defnyddiodd y criwiau ddau set o offer anadlu ac un bibell ddŵr  i ddiffodd y tân.

Am larwm mwg am ddim cofrestrwch am archwiliad diogelwch tân yn y cartref  gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.  Byddwn yn dod i'ch cartref, yn rhannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd- a'r cyfan am ddim.  Galwch ein llinell 24awr ar 0800 169 1234, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i  88365, gan roi HFSC ar ddechrau'r neges.

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen