Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Gwasanaeth Tân ac Achub yn lansio gwefan newydd

Postiwyd

Heddiw (23 Mai) mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi lansio gwefan newydd sbon mewn ymgais i annog mwy o bobl i ymweld â'r wefan a dysgu mwy am ddiogelwch tân.  

Mae'r wefan newydd yn derbyn porthiant o'n tudalennau Facebook a Twitter swyddogol, cyswllt uniongyrchol i sianel You Tube Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac yn cynnwys adran i blant ac athrawon ynghyd  â gemau rhyngweithiol.

Mae'r safle hefyd yn darlledu ein newyddion diweddaraf, rhestru swyddi gwag yn yr adran recriwtio yn ogystal â darparu cynghorion di-ben-draw ar ddiogelwch tân i bawb sydd yn byw, gweithio ac ymweld â Gogledd Cymru.

Bydd cyfle i bobl sydd yn ymweld â'r safle i gofrestru ar-lein am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim yn ogystal â darganfod mwy am y 44 o orsafoedd tân sydd wedi eu lleoli ar hyd a lled y rhanbarth.  

Meddai Ruth Simmons, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol: "Rydym yn hynod o falch o gael lansio ein gwefan newydd, sydd yn cynnig llawer iawn o adnoddau newydd i'r defnyddiwr.

"Mae'r dyluniad newydd yn ffres, modern a hawdd i'w ddefnyddio, ac y mae'r dolenni cyswllt o'n safleoedd rhwydweithio cymdeithasol hefyd yn ein galluogi i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf â phawb sydd yn ymweld â'r safle.

"Ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk i gael sbec!"

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen