Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl i ddiogelu safleoedd gwag

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar i bobl sydd berchen adeiladau gwag ddiogelu eu heiddo rhag tanau bwriadol yn dilyn dau dân amheus yn y rhanbarth yn ystod y ddau ddiwrnod diwethaf.

 

Cafodd pedwar diffoddwr tân o'r Rhyl a Phrestatyn eu galw i ddigwyddiad yn hen adeilad y Grange Hotel ar Rodfa'r Dwyrain, y Rhyl yn ystod oriau mân y bore yma (11eg Mai) am 0.5.17 o'r gloch.  Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân bedair set o offer anadlu, dwy bibell ddŵr ac un prif bibell i ddiffodd y tân. Cafodd estyniad i'r adeilad a rhannau o'r llawer gwaelod eu dinistrio gan y tân.

 

Cafodd tri pheiriant o Dreffynnon, Glannau Dyfrdwy a'r Fflint eu galw i dân amheus ar safle hen Ysbyty Lluesty ar Old Chester Rd ar 10fed Mai am  00.32 o'r gloch. Ni ledaenodd y tân ymhellach na'r llawr cyntaf a defnyddiodd y criw ddwy set o offer anadlu, un prif bibell a phibell ddŵr i ddiffodd y tân.

 

Dywedodd Kevin Jones, Rheolwr y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol: "Mae'n ymddangos bod y tanau hyn wedi eu cynnau'n fwriadol.  Yn ffodus iawn ni chafodd unrhyw un ei anafu yn ystod y digwyddiadau hyn, ond mae'r ddau ddigwyddiad yn achos pryder gan y gallai'r tanau fod wedi datblygu'n danau difrifol iawn heb yn wybod i neb gan roi bywydau yn y fantol.

 

"Roedd yn rhaid i ni ddefnyddio ein hadnoddu prin i ddelio gyda'r digwyddiadau hyn, gan beryglu bywydau pobl eraill yn ogystal â'n diffoddwyr tân.

"Rwyf yn erfyn ar i berchnogion ystyried y perygl o danau bwriadol wrth gwblhau eu Hasesiad Risgiau Tân. Bydd hyn yn ein cynorthwyo i arbed bywydau ac amddiffyn busnesau a'u hasedau."

 

"Mae cynnau tanau bwriadol yn drosedd ddifrifol iawn ac ni fyddwn yn goddef y math yma o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio'n agos gyda  Heddlu Gogledd ynghyd â phartneriaid eraill i geisio mynd i'r afael â'r broblem. Byddwn yn erlyn drwgweithredwyr - os oes gan unrhyw un wybodaeth am weithgareddau o'r fath rhowch wybod i Heddlu Gogledd Cymru drwy alw 101 neu crimestoppers ar 0800 555 111."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen