Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dynes Trin Gwallt o Ddolgellau Yn Helpu I Achub Bywydau Tra'n Trin a Thorri

Postiwyd

Mae salon trin gwallt yn Nolgellau yn helpu i diogelu cleientiaid drwy rannu cynghorion diogelwch tân ynghyd â'u gwasanaethau trin a thorri arferol.

Y mae Liz Morley, perchennog GM Hairdressers, Pont Aran yn ymfalchïo yn y gwasanaeth cyfeillgar y mae hi'n ei ddarparu i nifer helaeth o gwsmeriaid, a gwelodd gyfle i ddiogelu ei chleientiaid. Daeth hyn ar ôl iddi drafod gydag un o'i chwsmeriaid, sydd yn gweithio i'r gwasanaeth tân, am bwysigrwydd diogelwch tân yn y cartref.

Eglurodd Liz: "Mae pobl o bob oed ac o gefndiroedd gwahanol yn dod i'r salon - maent yn hoffi siarad ac felly dechreuais feddwl sut y gallwn i wneud yn siŵr bod y sgyrsiau hynny o gymorth a'u bod yn eu cadw mor ddiogel â phosibl."

Paul Williams, Gweithiwr Cefnogi Diogelwch Cymunedol gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn un o gwsmeriaid rheolaidd y salon. Yn ystod un o'i sgyrsiau gyda Liz y daeth y syniad i hyrwyddo diogelwch tân yn y salon.

Y mae Liz nawr yn rhannu cynghorion diogelwch tân sylfaenol gyda'i chleientiaid megis sut i ddefnyddio cyfarpar trin gwallt gyda gwres a phwysigrwydd gosod larymau mwg gweithredol yn y cartref. Y mae hefyd yn hybu'r archwiliadau diogelwch tân yn y cartref a gynigir yn rhad ac am ddim gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Dywedodd Paul: "Mae pobl hŷn o'r cartref preswyl lleol a phobl ifanc o ganolfannau iechyd meddwl lleol yn mynychu'r salon - mae'r awyrgylch hamddenol a'r berthynas rhwng Liz a'i chleientiaid yn golygu y gallwn rannu ein negeseuon diogelwch tân gydag aelodau'r gymuned yr ydym yn ei chael yn anodd i ymgysylltu â hwy.

"Mae'n galonogol gweld bod Liz yn gwneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu ei chleientiaid ac y mae ei gwaith caled yn gwneud llawer o artal tanau ac arbed bywydau yn ardal Dolgellau."
Fe ychwanegodd Liz: "Rwyf yn hapus iawn 'mod i'n helpi i ddiogelu'r cwsmeriaid sydd yn fy nghefnogi i ac rwyf yn mawr obeithio y byddant yn cadw fy nghyngor ar diogelwch tân yn y cartref mewn cof."

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru. Yn ystod yr archwiliad diogelwch tân yn y cartref, bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref, yn rhannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc ac , os oes angen, yn gosod larymau mwg am ddim.

Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen