Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apelio Ar I Bobl Adrodd Am Losgwyr Yn Ardal Wrecsam

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar i drigolion ar hyd a lled Wrecsam fod yn wyliadwrus ac adrodd am bobl sydd yn cynnau tanau'n fwriadol yn dilyn dau ddigwyddiad arall yn yr ardal.

Digwyddodd y cyntaf o'r ddau ddigwyddiad am 05.32 o'r gloch Ddydd Mercher 11 Ebrill ar Piercy Avenue ym Marchwiail, lle cafodd car ei roi ar dân yn fwriadol. Mae'r Heddlu a swyddogion tân yn apelio am help i ddod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol

Dywedodd Andy Robb o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'r digwyddiad hwn yn dilyn nifer o danau ceir yn ardal Wrecsam yn ddiweddar. Nid yw'r rhai sy'n gyfrifol yn malio dim am ddiogelwch y cyhoedd ac mae pryder y gall tanau o'r fath ledaenu'n hawdd a pheryglu bywydau.

"Rydym yn cynghori trigolion i gadw llygaid ar eu ceir yn ogystal â bod yn wyliadwrus o bobl sydd yn ymddwyn yn amheus ger cerbydau yn yr ardal."

Digwyddodd yr ail dân am 6.07 o'r gloch, Ddydd Mercher 11 Ebrill, ar y B4500 yn y Waun ger Wrecsam, lle cafodd polyn trydan 33,000 folt ei roi ar dân wrth i ladron geisio dianc gyda metelau gwerthfawr.

Dywedodd Andy Robb: "Mae ymddygiad troseddol fel hyn nid yn unig yn peryglu bywydau'r troseddwyr eu hunain, ond mae hefyd yn peryglu bywydau'r diffoddwyr tân sydd yn cael eu galw i ddiffodd y tân yn ogystal ag aelodau'r cyhoedd sydd yn rhoi cynnig ar frwydro'r tân eu hunain. Rydw i'n cynghori pobl i beidio â mynd yn agos at danau trydanol o'r fath ac iddynt alw'r gwasanaeth tân ac achub ar unwaith.

Rydym yn gweithio'n agos gyda thimau plismona lleol i fynd i'r afael â'r broblem - mae cynnau tanau bwriadol yn drosedd ddifrifol a byddwn ni, ynghyd â Heddlu Gogledd Cymru, yn erlyn troseddwyr.

Rydym yn annog unrhyw un sydd gan wybodaeth am bobl sydd yn cynnau tanau bwriadol i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu â Crimestoppers ar 0800 555 111 os ydynt yn dymuno aros yn ddienw."


Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen