Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Larymau Mwg Yn Rhybuddio Cwpl Oedrannus o Dân Yn Eu Cartref Yn Rhyd-y-mwyn

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân yn awyddus i ddwyn i'r amlwg bwysigrwydd larymau mwg wedi i gwpl oedrannus ddianc yn ddiogel o dân difrifol yn eu cartref yn Rhyd-y-mwyn.

Cafodd dau griw o Lannau Dyfrdwy ac un o Fwcle eu galw i fyngalo lefelau gwahân ar Ffordd y Ficerdy, Rhyd-y-mwyn ar ôl cael eu hysbysu gan y preswylydd bod tân yn yr eiddo. Roedd wedi canfod y tân yn yr ystafell amlbwrpas a'r gegin ar ôl clywed y larwm mwg yn seinio. Llwyddodd y gŵr a'i wraig i ddianc yn ddiogel o'r eiddo a galw 999.

Fe ddefnyddiodd ddiffoddwyr tân ddwy brif bibell ddŵr, dwy bibell ddŵr ac wyth set o offer anadlu i ddiffodd y tân a achosodd ddifrod tân yn y gegin, yr ystafell amlbwrpas a gwagle'r to. Cafwyd difrod mwg yng ngweddill yr eiddo.

Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill ond credir ei fod wedi cynnau'n ddamweiniol.

Derbyniodd y ddau driniaeth gan barafeddygon y fan a'r lle.

Dywedodd Ian Williams, Pennaeth Ymateb gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'r digwyddiad hwn yn dwyn i'r amlwg y ffaith bod larymau mwg yn achub bywydau - oherwydd bod y cwpl wedi cael rhybudd cynnar o'r tân roedd modd iddynt ddianc yn ddiogel a galw'r gwasanaeth tân ac achub cyn gynted â phosibl.

"Fe wrandawodd y cwpl ar ein cyngor gan adael yr eiddo cyn gynted â phosibl a galw 999 - dylech bob amser fynd allan, aros allan a galw'r gwasanaeth tân ac achub allan. Yn ogystal â diogelu eu hunain, drwy ein galw ni allan yn gyflym roedd modd i ni atal y tân rhag lledaenu fel mai dim ond un rhan o'r tŷ a gafodd ei ddifrodi gan y tân.

"Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru. Yn ystod yr archwiliad bydd aelod o staff yn dod i'ch cartref yn rhannu cynghorion diogelwch tân, ac os oes rhaid, yn gosod larymau mwg newydd yn eich cartref.

"I gofrestru galwch linell rhadffôn 24 awr Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd ar 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk <http://www.gwastan-gogcymru.org.uk> neu anfonwch neges destun i 88365, gan roi HFSC ar ddechrau'r neges."


Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen