Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gweithio Mewn Parteriaeth I Helpu I Hyrwyddo Llosgi Dan Reolaeth Ddiogel

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân yn gweithio mewn partneriaeth gydag arbenigwyr cadwraeth i wneud yn siŵr bod ffermwyr ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn llosgi dan reolaeth yn ddiogel ac effeithiol er mwyn helpu i amddiffyn a diogelu'r dirwedd.

Mae Nick Critchley, Swyddog Maes y Gweundir ar gyfer Prosiect y Grug a'r Caerau, yn gweithio i Gyngor Sir Ddinbych a diben ei swydd yw gofalu am dreftadaeth a harddwch naturiol gweundiroedd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, sydd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Y mae wedi ymuno â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar gyfer rhan olaf eu hymgyrch 'Galwch cyn llosgi!', sydd yn ymweld â marchnadoedd anifeiliaid ar hyd a lled y rhanbarth i wneud yn siŵr bod tirfeddianwyr yn gwrando ar gynghorion diogelwch sylfaenol ac yn rhoi gwybod i'r gwasanaeth tân ac achub os ydynt yn bwriadu llosgi dan reolaeth.

Mae'r Rheolau Llosgi Grug a Glaswellt yn dynodi mai dim ond rhwng 1af Hydref a 31ain Mawrth y caniateir llosgi ar uwchdiroedd a rhwng 1af Tachwedd a 15fed Mawrth ymhobman arall.

Bydd nifer o ffermwyr nawr yn manteisio ar y cyfle i losgi grug, rhedyn ac eithin dan reolaeth ar eu tir.

Heddiw, bydd Nick ynghyd â staff o'r Gwasanaeth yn ymweld â marchnad yr Wyddgrug a byddant yn ymweld â marchnadoedd Rhuthun a Llanelwy dros yr wythnosau nesaf . Byddant yn rhannu pereiddwyr aer i dirfeddiannwr sydd yn hysbysebu'r rhif i'w alw os ydynt am losgi dan reolaeth ynghyd â thaflenni sydd yn eu hatgoffa am sut i losgi dan reolaeth yn ddiogel. Yn ogystal â hyn bydd Nick yn arddangos offer llosgi grug i'r ffermwyr.

Bydd diffoddwyr tân hefyd yn ailymweld â marchnadoedd Gaerwen, Bryncir a Dolgellau cyn diwedd y tymor llosgi.

Dywedodd Nick: "Rydym yn cydweithio gyda ffermwyr lleol yn yr ardal i'w helpu i losgi gweundir dan reolaeth ar eu tir. Mae llosgi dan reolaeth yn ffordd dda o reoli grug. Os na fydd y grug yn cael ei losgi bydd yn tyfu'n hir ac yn llipa, ac o ganlyniad ni fydd yr un mor faethlon â grug ifanc. Fodd bynnag, yn aml iawn bydd y tanau hyn yn llosgi'n rhy ffyrnig o lawer ac yn cynnau'r mawn lle mae'r grug yn tyfu. Nid yn unig mae'r tanau hyn yn anodd eu diffodd, gallant ddinistrio'r grug a hadau eraill os bydd y mawn yn mynd ar dân, a bydd y planhigion yn cael eu colli am byth a'r tir yn erydu - bydd yn cymryd blynyddoedd i adfer y tir.

"Mae ardal sydd gan gyfuniad o grug ifanc a hen yn fan pori delfrydol i ddefaid, yn ogystal â chyflenwad bwyd a lloches i adar sydd yn nythu ar y tir megis y rugiar ddu, sydd yn aderyn prin iawn.

"Drwy gydweithio gyda'r gwasanaeth tân ac achub cawn gyfle i ymgysylltu a siarad â nifer o ffermwyr am sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i losgi'n effeithiol ac yn ddiogel."

Fe ychwanegodd Gareth Griffiths, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Rydym wedi cael ymateb gwych i'n ymgyrch 'Galwch cyn Llosgi!" ac rydym yn falch iawn o gael cydweithio gyda Nick a Chyngor Sir Ddinbych - wrth ymweld â'r marchnadoedd hyn gyda'n gilydd cawn gwrdd â thirfeddianwyr wyneb yn wyneb er mwyn rhannu ein negeseuon.

" Rydym yn erfyn ar i dirfeddianwyr sydd yn bwriadu llosgi dan reolaeth gysylltu â ni cyn gwneud hynny drwy ffonio'r Ystafell Reoli ar 01745 535805. Bydd hyn yn ein helpu i osgoi galwadau tân ac anfon criwiau i danau yn ddiangen yn ogystal â sicrhau ein bod yn barod i ymateb petaech yn colli rheolaeth ar y tân.


"Rydym hefyd yn gofyn i dirfeddianwyr fod yn gyfrifol wrth losgi dan reolaeth. Mae tanau fel hyn yn cael eu cynnau mewn ardaloedd sydd yn anodd eu cyrraedd a lle mae'r cyflenwad ddŵr yn brin - gall tân sydd allan o reolaeth roi pwysau mawr ar adnoddau, gan y bydd diffoddwyr tân yn brysur am beth amser yn ceisio dod â'r tân dan reolaeth. Gall y tanau hyn beryglu cartrefi ac anifeiliaid heb sôn am fywydau'r criwiau a thrigolion gan na fydd diffoddwyr tân ar gael i ymateb i ddigwyddiadau brys gwirioneddol.

Gofynnwn i ffermwyr ddilyn y cyfarwyddiadau canlynol os ydynt yn bwriadu llosgi dan reolaeth:

- Sicrhewch fod digon o bobl o gwmpas a bod offer digonol ar gael rhag ofn i chi golli rheolaeth ar y tân.
- Edrychwch i ba gyfeiriad y mae'r gwynt yn chwythu i sicrhau nad oes perygl i eiddo, ffyrdd a bywyd gwyllt
-Os collwch reolaeth ar y tân cysylltwch â'r gwasanaeth tân yn syth gan roi manylion lleoliad a mynediad.
- Mae'n anghyfreithlon gadael tân heb neb yn arofalu amdano neu beidio â chael digon o bobl i'w gadw dan reolaeth. - Gwnewch yn siŵr fod y tân wedi diffodd yn llwyr cyn gadael a dychwelwch i'r fan y diwrnod canlynol er mwyn gwneud yn siŵr nad ydyw wedi ailgynnau."


Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymweld â'r marchnadoedd canlynol ar y dyddiadau isod:

Marchnad Dolgellau - Dydd Gwener 9 Chwefror
Marchnad Gaerwen - 21 Chwefror
Marchnad Bryncir - 5 Mawrth
Marchnad Llanelwy -15 Mawrth
Marchnad Llanrwst- Dyddiad ac amser i'w gadarnhau
Marchnad Rhuthun - Dyddiad ac amser i'w gadarnhau


Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen