Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tŷ Gwag Yn Chwilog Yn Cael Ei Ddinistrio Gan Dân Trydanol

Postiwyd

Mae tŷ gwag yn Chwilog wedi cael ei ddinistrio yn dilyn tân trydanol yn ystod oriau mân y bore yma (Dydd Mercher Chwefror 22).

Galwyd criwiau o Bwllheli ynghyd â cherbydau maes o Borthmadog Blaenau Ffestiniog a Dolgellau i'r tŷ anghysbell ger lan y môr am 01:28.

Fe achosodd y tân ddifrod tân 100% i'r eiddo.

Credir mai'r cylched byr trydanol yn y mesurydd trydan a achosodd y tân.

Dywedodd Glyn Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'r tân yn dwyn i'r amlwg pa mor beryglus yw tanau trydanol - gallant ddigwydd ar unrhyw adeg ar yn unrhyw le. Mae'n bwysig eich bod yn gwneud popeth o fewn eich gallu rhag ofn bydd tân yn cynnau megis sicrhau eich bod yn gosod larymau mwg gweithredol  yn eich cartref a bod gennych gynllun dianc fel y gallwch chi a'ch teulu adael y tŷ cyn gynted â phosib.  Rydym hefyd yn eich cynghori i wneud yn siŵr bod mannau lle mae eitemau trydanol yn cael eu cadw yn glir o sbwriel, papur a deunyddiau hylosg eraill a all hwyluso lledaeniad tân.

"At hynny, mae rhai camau syml y gallwch eu dilyn i atal tân trydanol yn eich cartref. Maent yn cynnwys:

- PEIDIO Â gorlwytho socedi

- GWIRIO gwifrau yn rheolaidd rhag ofn eu bod wedi treulio

- TYNNU plwg unrhyw gyfarpar sydd ddim yn cael ei ddefnyddio

- CADW cyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da

"Er mwyn eich helpu i'ch cadw chi a'ch teulu'n ddiogel rhag tân mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim ac, os oes angen, yn gosod larymau mwg am ddim.  Galwch 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk i drefnu i aelod o staff ddod i'ch cartref i rannu cynghorion diogelwch tân sydd yn berthnasol i chi a'ch teulu."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen