Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio Am Danau Trydanol Yn Dilyn Tân Yn Llandudno

Postiwyd

Mae Uwch Swyddog Tân yn rhybuddio am beryglon tanau trydanol yn dilyn tân a ddigwyddodd yn Llandudno fore ddoe, lle cafodd tri o bobl eu cludo i'r ysbyty.

Fe achubodd ddiffoddwyr tân dri o bobl o eiddo ar Rodfa'r Drindod, Llandudno fore ddoe (Dydd Mercher 15 Chwefror).

Mae gwraig oedrannus a'i mab yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr Uned Gofal Dwys ar ôl iddynt anadlu mwg.  Cafodd y mab arall, a oedd hefyd wedi ei anafu, ei ryddhau o'r ysbyty brynhawn ddoe ar ôl derbyn triniaeth.

Mae'r ymchwiliad i achos y tân wedi canfod bod y tân wedi cynnau yn y twll dan grisiau ar y llawr isaf.  Credir mai nam trydanol yn y  gylched fer a achosodd y tân.  Mae'r ymchwiliad yn parhau.

DywedoddColin Hanks, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol: "Rydym yn meddwl am y bobl a gafodd eu hanfu yn y tân ac yn dymuno gwellhad buan iddynt.

"Mae'r tân hwn yn dwyn i'r amlwg y gall tanau trydanol ddigwydd ar unrhyw adeg, yn  unrhyw le.  Mae'n bwysig bod pobl yn paratoi rhag tân drwy sicrhau bod ganddynt larymau mwg gweithredol yn eu cartref a'u bod yn llunio cynllun dianc fel y gall pawb ddianc o'r adeilad cyn gynted â phosib.   Rydym hefyd yn apelio ar i drigolion wneud yn siŵr nad oes sbwriel, papurau neu ddeunyddiau hylosg eraill yn cael eu cadw yn ymyl eitemau megis blychau ffiwsys gan y gallant hwyluso lledaeniad y tân.  

"At hynny, mae rhai camau y gallwch eu cymryd i atal tân trydanol yn y cartref.  Maent yn cynnwys:

- PEIDIO Â  gorlwytho socedau

- ARCHWILIO gwifrau yn rheolaidd rhag ofn eu bod wedi treulio neu wisgo

- TYNNU PLWG pob cyfarpar sydd ddim yn cael ei ddefnyddio

- CADW cyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da

"I'ch cadw chi a'ch teulu yn ddiogel rhag tân mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn darparu Archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref ac yn gosod larymau mwg am ddim os oes angen.  Galwch 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk  i drefnu i aelod o staff ddod i'ch cartref i gynnig cyngor sydd yn berthnasol i chi a'ch teulu."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen