Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Achub Tri o Bobl o Eiddo Yn Llandudno

Postiwyd

Y bore yma (Dydd Mercher 15fed Chwefror), am 08:56am, galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd i dân mewn adeilad yn Rhodfa'r Drindod, Llandudno

Anfonwyd criwiau o Landudno, Conwy a Bae Colwyn i'r digwyddiad a chafodd tri o bobl eu hachub o'r eiddo. Cafodd y tri eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans. Mae dyn a dynes yn derbyn triniaeth yn yr uned ddwys ar ôl anadlu mwg ac y mae dyn arall yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth i fân anafiadau.

Aethpwyd â diffoddwr tân i'r ysbyty yn ogystal ac yntau'n dioddef o effeithiau anadlu mwg, ond cafodd ei ryddhau o'r ysbyty yn ddiweddarach.

Roedd y tân dan reolaeth erbyn 10.15am ac y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i achos y tân.


Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen