Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Jacqueline yn ennill yr hamper Nadolig wedi’r ymgyrch coginio

Postiwyd

Mae un preswylydd lwcus, Jacqueline Naylor, wedi derbyn hamper Nadolig  gan staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dilyn ymgyrch poblogaidd yn ardal Wrecsam i leihau nifer y tanau cegin.

Yn ystod ail ran yr ymgyrch 'Gwylia'r Cloc - Neu bydd Fflamau Toc!' bu staff o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymweld ag archfarchnadoedd yn ystod mis Hydref, Tachwedd a Rhagfyr, gan rannu cyngor ac amseryddion cegin am ddim i filoedd o siopwyr.  Roedd hyn yn dilyn rhan gyntaf yr ymgyrch a gynhaliwyd yn gynharach eleni.

Er mwyn derbyn yr amseryddion cegin roedd yn rhaid i siopwyr gwblhau cwis - ac roedd cyfle i bawb a gwblhaodd y cwis ennill hamper o fwydydd Nadoligaidd moethus.

Fe gwblhaodd Jacqueline Naylor o Wersyllt y cwis wrth siopa yn Asda a'i henw hi a ddewiswyd ar hap. Meddai: "Dwi wrth fy modd mod i wedi ennill yr hamper ac rydw i'n meddwl bod yr ymgyrch yn ffordd dda iawn o rannu'r neges â phobl.

"Fe wnes i gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn ogystal wrth i mi gwblhau'r cwis.  Roedd yr ymweld yn help i dawelu meddwl rhywun, ac fe wnes i ddysgu llawer o'r cynghorion a rannwyd.  Rydw i'n argymell bod pawb yn trefnu ymweliad ac rydw i mor falch mod i wedi cwblhau'r cwis pan oeddwn yn siopa!"

Meddai Paul Whybro, Rheolwr Diogelwch Cymunedol  ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint:

"Mae tanau cegin wedi bod yn broblem ers rhai blynyddoedd bellach - y llynedd roedd 58% o'r holl danau damweiniol yn ardal Wrecsam wedi eu hachosi gan goginio bwyd.

"Fel rhan o'r ymgyrch bu staff yn ymweld ag archfarchnadoedd i amlygu'r peryglon o beidio â chanolbwyntio wrth goginio a gadel bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno.

"Dro ar ôl tro rydym yn cael ein galw i nifer o danau yn y cartref sydd wedi cychwyn yn y gegin - mae'n hawdd iawn anghofio am fwyd sy'n coginio, yn enwedig os ydych wedi blino, wedi bod yn yfed neu os digwydd i rywbeth dynnu eich sylw.  Gall arwain at ganlyniadau trychinebus.

"Felly gwrandwch ar ein cyngor a choginiwch yn ddiogel a chofiwch - mae larymau mwg yn achub bywydau.  Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234.

Dyma air i gall am ddiogelwch tân yn y gegin:

Os oes raid i chi adael y gegin cofiwch dynnu'r bwyd oddi ar y gwres

  • Peidiwch â defnyddio matsis neu danwyr i gynnau poptai nwy.  Mae dyfeisiadau tanio yn llawer mwy diogel.  
  • Gwnewch yn siŵr bod coesau eich sosbenni wedi eu troi at i mewn ac nad ydynt yn mynd dros ochr y popty
  • Cadwch y popty, hob a'r gridyll yn lân - gall saim fynd ar dân yn hawdd iawn  
  • Peidiwch byth â hongian dim byd i sychu uwch ben y popty
  • Cymrwch ofal os ydych yn gwisgo dillad llac rhag ofn iddynt fynd ar dân
  • Unwaith y byddwch wedi gorffen coginio cofiwch ddiffodd popeth
  • Diffoddwch yr holl gyfarpar trydanol os nad ydych yn eu defnyddio
  • Peidiwch byth â defnyddio sosban sglodio - defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r gwres
  • Gosodwch larymau mwg - maent ar gael yn rhad ac am ddim ac maent yn arbed bywydau."
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen