Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dathlu’n ddiogel dros yr ŵyl

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn apelio ar i drigolion gadw diogelwch tân mewn cof wrth i'r Nadolig nesáu.

Mae Diffoddwyr tân wedi bod yn bresennol mewn digwyddiadau yn Johnstown, Llangollen, Penmaenmawr, Caernarfon ac Abersoch i ledaenu'r gair am ddiogelwch tân dros y Nadolig a  byddant yn ymweld â'r Rhyl yr wythnos nesaf.

Meddai Gareth Griffiths, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Amser i ddathlu ac ymlacio yw'r cyfnod cyn y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd - ond byddwch yn hynod ofalus rhag ofn i dân ddinistrio eich cartref a difetha anrhegion a phethau gwerthfawr, neu'n waeth byth eich anafu chi neu'ch anwyliaid."
 
Mae Gareth yn egluro bod coed Nadolig, addurniadau a goleuadau yn cynyddu'r perygl o dân yn y cartref ac mae'n rhannu'r rheolau euraidd canlynol ar gyfer dathlu'n ddiogel dros yr ŵyl:
· Diffoddwch oleuadau eich coeden Nadolig a thynnwch y plwg gyda'r nos neu os bydd yr ystafell yn wag am gyfnod hir. Gwnewch yn siŵr bod marc Diogelwch Safonau Prydeinig ar eich goleuadau Nadolig.
· Peidiwch â gorlwytho socedi.
· Gwnewch yn siŵr bod canhwyllau wedi eu gosod mewn daliwr canhwyllau pwrpasol fel na allant gael eu taro i lawr, a pheidiwch byth â gadael canhwyllau sydd wedi eu tanio heb neb i gadw llygaid arnynt.
· Gwnewch yn siŵr bod gard ar danau agored ac nad oes papur lapio, addurniadau Nadolig ayyb, yn agos ar y tân.
· Gwnewch yn siŵr bod ysmygwyr yn diffodd eu sigaréts yn llwyr.
· Byddwch yn hynod ofalus os ysych wedi bod yn yfed alcohol.
· Cofiwch brofi, nid difaru - profwch eich larymau mwg i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio a pheidiwch â chael eich temtio  i dynnu batris eich larymau mwg er mwyn eu defnyddio mewn anrhegion Nadolig.
· -Lluniwch gynllun dianc  < http://www.warwickshire.gov.uk/Web/corporate/pages.nsf/Links/97A9CE5EB28F37FB80256C560048192E>Dihangwch yn fyw - a ydy pnawn (yn cynnwys gwesteion) yn gwybod lle mae agoriadau'r drysau a'r ffenestri'n cael eu cadw?
· Peidiwch â gadel i ddim byd dynnu eich sylw wrth goginio - bydd tân yn cynnau os na fyddwch yn canolbwyntio.


Fe ychwanegodd Gareth: "Mae pawb yn hoffi mwynhau eu hunain dros y Nadolig, ac rydym yn gofyn i bobl gadw diogelwch tân mewn cof wrth ddathlu. Hoffwn atgoffa trigolion am beryglon coginio ar ôl bod yn yfed yn ogystal- mae coginio ac yfed yn gyfuniad peryglus iawn.

"Mae'n rhaid i ni gyd ystyried y canlyniadau a meddwl yn ddiogel er mwyn cadw'n ddiogel."

Am ragor o gyngor ar ddiogelwch tân ac am gyfle i gael gosod larymau mwg yn eich cartref yn rhad ac am ddim, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref.

I gofrestru, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr 0800 169 1234, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan wneud yn siŵr eich bod yn rhoi HFSC ar ddechrau'r neges.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen