Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Digwyddiad cemegol yng Nglannau Dyfrdwy

Postiwyd

Mae'r gwasanaethau brys yn bresennol mewn digwyddiad cemegol ar Prince William Avenue, Sandycroft, Glannau Dyfrdwy.

Fe anfonodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bedwar o beiriannau tân ( o Lannau Dyfrdwy, Bwcle a Wrecsam) yn ogystal â dau beiriant arbenigol (yn cynnwys Uned Amddiffyn yr Amgylchedd o Wrecsam) i'r digwyddiad am 11.00 o'r gloch heddiw (Dydd Mercher 7 Tachwedd).

Mae staff o Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru hefyd yn bresennol.

Mae cemegyn sy'n cael ei ddefnyddio yn y safle cynhyrchu cemegau wedi gollwng, ond ni wyddys faint yn union.  Mae'r gollyngiad wedi ei gyfyngu i'r safle.  

Fe dderbyniodd tri dyn, a oedd yn gweithio ar y safle, driniaeth yn y fan a'r lle cyn cael eu cludo ir ysbyty.

Fe ddefnyddiodd ein diffoddwyr tân eu hoffer anadlu a buont yn cydweithio gyda thimau brys ar  y safle i drin y gollyngiad ac i ddelio gyda'r bobl a gafodd eu hanafu.  

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen