Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Digwyddiadau’n gysylltiedig â Choelcerthi a Thân Gwyllt

Postiwyd

 

 

Bu'n rhaid i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ymateb i 25 o ddigwyddiadau'n ymwneud â choelcerthi a thân gwyllt ar Dachwedd 5ed.

 

Roedd y rhain yn cynnwys:

15.55 Coelcerth fechan  yn Rhiwabon

16:05 Llosgi sbwriel Balmoral Grove, Y Rhyl

16:25 Coelcerth ym Mhensyflog, Porthmadog

17:01 Llosgi sbwriel Stryd Acwariwm, Y Rhyl

17:27 Llosgi sbwriel Bryn Hafod, Parc Caia Wrecsam

17:49 Coelcerth wedi ei gadael heb neb i gadw llygaid arni yn  Oak Drive, Bae Colwyn

17:59 Tân wedi ailgynnau Bryn Hafod, Parc Caia

18:07 Llosgi sbwriel, Coedpoeth

18:09 Llosgi sbwriel, St Giles Crescent

18:11 Coelcerth fawr wedi ei gadael heb neb i gadw llygaid arni Windham Gardens, Parc Caia

19:23 Llosgi sbwriel, Windham Gardens, Parc Caia

19:47 Llosgi sbwriel, Acrefair

20:19 Llosgi sbwriel Windham Gardens,Parc Caia

20:22 Coelcerth fechan, Ffordd Santes Helen, Caernarfon

20:32 Llosgi sbwriel Bryn Hafod, Parc Caia Wrecsam

20:34 Llosgi sbwriel, Bron Y Wern, Bagillt

20:41 Llosgi sbwriel Stryd Madog, Porthmadog

20:48 Coelcerth ym Mhensyflog, Porthmadog

21:15 Coed ar dân, Cheshire View, Wrecsam

21:17 Llosgi sbwriel Tan Y Dre, Wrecsam

21:37 Coelcerth ar gae pêl-droed Parc Caia, Wrecsam

21:58 Sbwriel ar dân, Tanat Way, Parc Caia

22:13 Paletau pren ar goelcerth, St Andrews Avenue Llandudno

22:20 Nifer o goed ar dân Castle Road, Coedpoeth

22:30 Sbwriel ar dân, Glas Gors, Parc Caia

 

MeddaiGareth Griffiths, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Ar y cyfan mae nifer y digwyddiadau yn ymwneud â choelcerthi a thân gwyllt y cawsom ein galw iddynt ar Dachwedd y  5ed wedi gostwng, a hoffem ddiolch i'n trigolion am weithio gyda ni i gadw ein cymunedau'n ddiogel.   Mynd i nosweithiau tân gwyllt cymunedol yw'r ffordd fwyaf diogel i ddathlu noson tân gwyllt.

 

"Fodd bynnag, cawsom ein galw i sawl digwyddiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol  yn ymwneud â choelcerthi a thân gwyllt yn ardal Wrecsam.  Mae'r math yma o ymddygiad twp yn gwbl annerbyniol a byddwn yn cydweithio gydag asiantaethau lleol i fynd i'r afael â'r bobl sy'n cyflawni'r troseddau hyn a lleihau effeithiau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

"Mae ymddygiad anghyfrifol o'r fath yn rhoi pwysau mawr ar adnoddau'r gwasanaeth tân ac achub.  Tra bod criwiau'n brysur yn ymateb i'r galwadau hyn, nid ydynt ar gael i ymateb petai ddigwyddiad brys gwirioneddol lle mae bywydau yn y fantol."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen