Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diweddaraid 5 - Ymateb aml-asiantaeth i’r llifogydd yn Sir Ddinbych, Gogledd Cymru

Postiwyd

Bydd yr ymateb aml-asiantaeth i'r llifogydd yn dilyn amodau tywydd difrifol yn Sir Ddinbych yn parhau drwy'r nos.

Mae Gwasanaethau Brys wedi edrych ar yr holl eiddo sydd wedi'u heffeithio arnynt yn Llanelwy er mwyn sicrhau lles pobl. Mae nifer o bobl wedi eu cludo i Ganolfan Seibiant yng Nghanolfan Hamdden Llanelwy neu wedi gwneud trefniadau eu hunain i aros gyda theulu.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi anfon adnoddau ychwanegol i'r ardal er mwyn sicrhau bod eiddo yn ddiogel ac er mwyn tawelu meddyliau'r gymuned leol. Os yw aelodau o'r gymuned yn dal i boeni am ffrindiau a theulu agored i niwed yn yr ardal fe ddylent ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101. Mae'r Heddlu hefyd yn gofyn i'r cyhoedd gadw draw o'r ardal a effeithiwyd arni er mwyn galluogi'r gwasanaethau brys i weithio drwy'r nos.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi anfon pwmp cryf i ardal March Road, Rhuddlan er mwyn sicrhau bod y ffyrdd sy'n arwain at ysbyty Glan Clwyd yn parhau ar agor ac mae pwmp arall wedi dod o West Kirby er mwyn delio â lefelau'r dŵr yn Llanelwy.

Mae'r Ganolfan Seibiant a agorwyd yn gynharach yn y diwrnod yn Rhuthun bellach wedi'i chau ac mae unrhyw un sydd angen llety a lluniaeth brys yn cael eu hanfon i'r Ganolfan seibiant yng Nghanolfan Hamdden Llanelwy a fydd ar agor drwy'r nos.

Mae rhybudd llifogydd yn parhau yn yr ardal, fodd bynnag mae lefelau'r afonydd yn disgyn yn araf a does dim disgwyl y bydd mwy o law yn disgyn dros nos. Disgwylir llanw uchel am 10pm heno ond gofynnir i drigolion Rhuddlan gadw llygad allan ac edrych ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd, gwrando ar y radio lleol ac edrych ar y teledu er mwyn cael y newyddion diweddaraf.

Meddai'r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Gareth Pritchard o Heddlu Gogledd Cymru: "Y brif flaenoriaeth yw diogelu bywydau a chadw'r gymuned yn ddiogel a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu, ynghyd â'n partneriaid, i sicrhau bod hynny'n digwydd. Ar y cyd â'n partneriaid, byddwn yn gweithio drwy'r nos i sicrhau bod lefelau'r dŵr yn gostwng a bod y  gymuned yn ddiogel. Pan fyddwn yn credu bod yr ardaloedd sydd wedi'u heffeithio arnynt yn ddiogel byddwn yn hysbysu'r bobl hynny ac er mwyn sicrhau eu diogelwch, rwy'n gofyn iddynt gadw draw o'r ardaloedd hynny.

"Mae nifer o asiantaethau yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod y gymuned yn dychwelyd i ryw lefel o normalrwydd a hoffwn gyfleu fy niolch am yr holl waith caled mae pobl wedi'i wneud a hefyd i'r gymuned am eu hamynedd a'u dealltwriaeth."

Cynghorir aelodau o'r cyhoedd i ddilyn cyngor Asiantaeth yr Amgylchedd ar yr hyn sydd angen ei wneud os oes llifogydd:

/keeping-you-safe/near-water/advice.aspx?lang=en

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen