Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân angheuol ym Mhrestatyn

Postiwyd

Mae dyn yn ei 70au wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ ym Mhrestatyn.

Cafodd diffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i dân mewn eiddo ar Beverley Drive, Prestatyn am 21.55 o'r gloch, dydd Llun 26ain Tachwedd 2012.

Roedd tri criw, dau o'r Rhyl ac un o Brestatyn, yn bresennol ac fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân offer anadlu i fynd i mewn i'r eiddo a phibellau dŵr i ddiffodd y tân a chwilio am unrhyw anafusion.

Ar ôl mynd i mewn i'r eiddo daethpwyd o hyd i ddyn ond fe ddatganwyd ei fod wedi marw yn ddiweddarach.

Mae'r archwiliad ar y cyd ar cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn parhau.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen