Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynghori pobl i gymryd pwyll yn ystod tywydd garw

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar i yrwyr a cherddwyr gymryd pwyll yn dilyn rhybudd melyn am dywydd garw yng Ngwynedd a Chonwy.

Meddai Gwyn Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Rydym yn cynghori'r cyhoedd i wrando ar y cyngor teithio gan Heddlu Gogledd Cymru sy'n cael ei rannu yn y  wasg - os oes llawer o ddŵr wyneb ar y ffordd, mae'n well peidio â mentro allan oni bai fod y daith yn gwbl angenrheidiol. Os oes llifogydd, peidiwch â cheisio gyrru drwy'r llif rhag ofn ei fod yn ddyfnach nac y mae'n edrych."

Fe'ch cynghorir i gysylltu gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru am ragor o wybodaeth:

Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol - gwasanaeth rhad ac am ddim sy'n rhoi rhybuddion llifogydd i gartrefi sydd yn agored i lifogydd trwy alwad ffôn, ffôn symudol, e-bost,  neges destun, ffacs neu alwr.  I gofrestru galwch  0845 988 1188 neu ewch i  www.environment-agency.gov.uk

Mae rhybuddion lifogydd yn cael eu darlledu ar y teledu a'r radio fel rhan o'r bwletinau tywydd a theithio rheolaidd; gwefan yr Asiantaeth www.environment-agency.gov.uk/floodwarning, ITV Teletext (Tudalen 169) a BBC Ceefax (Tudalen 419). At hyn, mae gan yr  Asiantaeth linell gwybodaeth 24 awr sydd yn rhoi gwybodaeth am Rybuddion Llifogydd ar hyd a lled Cymru a Lloegr.  Gallwch wrando ar y rhybuddion yn eich ardal chi ar unrhyw adeg neu siarad â thriniwr galwadau 24 awr y dydd trwy alw  Floodline 08459 88 11 88.

  • Mae rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru bob 15 munud ar y wefan.  Ewch i www.environment-agency.gov.uk/flood i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen