Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diweddariad i’r tywydd difrifol yng Ngwynedd – canolfannau lloches wedi’u hagor.

Postiwyd

Fel rhan o'r ymateb amlasiantaeth i'r tywydd difrifol yng Ngwynedd, gall Heddlu Gogledd Cymru gadarnhau bod tair canolfan lloches wedi'i hagor i gynnig lloches a lluniaeth i'r rhai hynny sy'n sownd ar hyn o bryd ac sydd ddim yn gallu cyrraedd pen eu taith ac eraill sy'n dioddef effaith y llifogydd.

 

Mae'r canolfannau wedi'u hagor yn y lleoliadau canlynol:-

 

·         Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno, (gyferbyn â Cineworld) LL31 9XY

·         Canolfan Hamdden Caernarfon, Ffordd Bethel,  LL55 1DU

·         Ysgol Friars Bangor,  Lon y Bryn, LL57 2LN

 

Bydd gwirfoddolwyr yr awdurdodau lleol yn ceisio helpu unrhyw fodurwr, teithiwr neu eraill sy'n dioddef effeithiau'r llifogydd a bydd y canolfannau ar agor hyd nes eich hysbysir yn wahanol.

 

Mae'r A55 yn parhau i fod ar gau rhwng Cyffordd 11 ym Mangor a Chyffordd 12 yn Nhal y Bont (nos Iau) ac mae'r gwasanaethau brys a'r awdurdod lleol yn y broses o glirio'r dŵr oddi ar yr A55 er mwyn iddynt allu ailagor y ffordd cyn gynted â phosibl.

 

Nid oes rhagor o wybodaeth ar gael ar hyn o bryd

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen