Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Llifogydd ar yr A55 Gwynedd - diweddariad 11.30pm nos Iau 22ain Tachwedd

Postiwyd

Ar hyn o bryd (dydd Iau 22ain Tachwedd, 11.30pm) mae'r A55 yn dal ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng cyffordd 11 ym Mangor a chyffordd 12 yn Nhal y Bont ond mae pob priffordd a ffordd eilradd arall ar agor a gellir eu defnyddio gyda gofal.

Mae traffig tua'r gorllewin yn cael ei ddargyfeirio oddi ar yr A55 ar gylchfan Black Cat yng Nghyffordd Llandudno ar hyd yr A5 i Fangor ac mae traffig o Fangor tua'r dwyrain hefyd yn cael ei ddargyfeirio ar hyd y ffordd hon.   Mae'r traffig ar hyd yr A5 yn symud ar hyn o bryd felly mae'r Tîm Aml-asiantaeth a sefydlwyd mewn ymateb i'r tywydd garw yng Ngwynedd wedi rhyddhau gwirfoddolwyr oedd yn barod i roi cymorth i'r cyhoedd yng Nghanolfannau Hamdden Bangor, Cyffordd Llandudno a Chaernarfon.  Yn ystod y cyfnod yr oedd canolfannauBangora Chyffordd Llandudno ar agor daeth un aelod o'r cyhoedd i ofyn am gymorth, fodd bynnag aeth chwech o bobl o ardal Manceinion i ganolfanBangorlle trefnwyd llety dros nos iddynt.

Mae'r dŵr bellach wedi'i glirio oddi ar yr A55 ym Mangor ond rhaid rŵan glanhau mwd a rwbel cyn y bydd yn ddiogel i draffig ei defnyddio.   Mae nifer o asiantaethau yn rhan o'r clirio ac roedd yn rhaid cludo'r offer arbenigol oedd yn angenrheidiol ar gyfer y gwaith i'r lleoliad i drwy'r tagfeydd traffig, ond mae'r gwaith bellach yn symud yn ei flaen ac mae'r holl asiantaeth yn gwneud eu gorau i ailagor y ffordd cyn gynted â phosibl.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynghori gyrwyr i gadw oddi ar y ffyrdd oni bai fod eu siwrne yn hanfodol.  Os oes rhaid defnyddio'r ffyrdd cynghorir gyrwyr i edrych ar wefan Traffic Wales neu'r cyfryngau lleol cyn cychwyn, caniatáu digon o amser ar gyfer eu taith a chymryd gofal.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen