Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Euticals Limited, Sandycroft

Postiwyd

Meddai Colin Everret, Prif Weothreduwr Cyngor Sir y Fflint: "Mae Euticals Limited, cwmni cynhyrchu fferyllol yn Sandycroft, wedi cynyddu diogelwch ar ei safle ac mae'n rhoi cynllun gweithredu ar waith fel mesur diogelwch cyhoeddus.

"Y rheswm dros hyn yw bod cryn dipyn o ddeunydd fferyllol, a all fod yn ffrwydrol -Isosorbide Dinitrate (ISDN Pur) - wedi'i ddarganfod ar y safle yn dilyn archwiliad ar y cyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Mae Euticals Limited wedi dod â'r gwaith ar y safle i ben am y tro nes bydd y deunydd wedi'i ddadansoddi mewn labordy a nes cymeradwyir cynllun i'w drin a/neu ei glirio oddi ar y safle i leihau'r perygl i'r cyhoedd.

"Mae Euticals yn cydweithredu â'r asiantaethau statudol, gan gynnwys Cyngor Sir y Fflint, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, yr Heddlu, y gwasanaethau Tân ac Iechyd, sy'n cydweithio'n agos i fonitro ac i reoli'r sefyllfa. Mae'r asiantaethau statudol yn cynghori Euticals Limited ynghylch y ffordd orau o reoli'r peryglon.

"Cewch wybod am unrhyw gamau penodol y bydd angen eu cymryd. Byddwn yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth ychwanegol cyn gynted ag y bydd unrhyw ddatblygiadau eraill. Rhif ffôn arferol Gwasanaethau Stryd y Cyngor yw 01352 701234.

"Bydd y cwmni hefyd yn cyhoeddi llythyr ar wahân."

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen