Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Wythnos Diogelwch Ffyrdd

Postiwyd

 

Mae partneriaid diogelwch ffyrdd yng Ngogledd Cymru wedi bod yn lledaenu'r gair ar yrru'n ddiogel yn ystod digwyddiadau a drefnwyd ar hyd a lled y rhanbarth fel rhan o Wythnos Genedlaethol Diogelwch Ffyrdd (19 - 25 Tachwedd).

 

Mae Tîm Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymuno gyda chynghorau lleol a Heddlu Gogledd Cymru i rannu cyngor gan yr elusen diogelwch ffyrdd, 'Brake', ar yrru yn y gaeaf a diogelwch ceir, yn ogystal â chyngor i gerddwyr a seiclwyr.

 

Y thema eleni yw 'Slower speeds = happy people', ac y mae Brake wedi bod yn gweithio'n galed i hybu'r ffaith bod angen i'n ffyrdd fod yn llefydd mwy diogel fel y gall pobl gerdded neu seiclo i'r gwaith neu'r ysgol, neu ddefnyddio'r ffyrdd i ddibenion iechyd a hamdden. Maent hefyd yn gofyn i yrrwr arafu ger tai, ysgolion a siopau.

 

Mae staff wedi bod yn Morrisons, Caernarfon, yr wythnos hon ac yfory  byddant yng Nghanolfan Deuluoedd Oaktree  yn y Rhyl ac yn Asda, yn y Fferi Isaf ddydd Mercher nesaf.

 

Meddai Gareth Griffiths, Uwch Reolwr Diogelwch Tân gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Wrth i'r gaeaf agosáu, mae llawer iawn mwy o resymau pam y dylem gymryd pwyll ar y ffordd.  Rydym yn annog cerddwyr a seiclwyr i wisgo dillad llachar ac adlewyrchol er mwyn gwneud yn siŵr bod gyrwyr yn eu gweld yn y tywyllwch, ac rydym hefyd wedi bod yn atgoffa gyrwyr i lanhau eu sgriniau gwynt a'u ffenestri ar foreau gaeafol."

 

"Mae Wythnos Diogelwch Ffyrdd yn rhoi cyfle i ni atgoffa pawb o'r negeseuon diogelwch allweddol. Mae'n bwysig bod gyrwyr yn meddwl am eu diogelwch hwy eu hunain, yn ogystal â phobl eraill sy'n defnyddio'r ffordd."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen