Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Carolau’r Gwasanaethau Brys 2012

Postiwyd

Bydd Gwasanaethau Brys y Gogledd yn dod at ei gilydd ar gyfer eu Gwasanaeth Carolau blynyddol yng Nghadeirlan Bangor ym mis Rhagfyr.  Ddydd Llun 3ydd Rhagfyr am 7.30pm bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, y Gwasanaeth Achub ar y Mynydd a Gwylwyr y Glannau yn cymryd rhan yn y digwyddiad blynyddol hwn.

Mae'r gwasanaeth yn gyfle i'r Gwasanaethau Brys ac unrhyw wasanaeth arall, gwirfoddol ai peidio, ddod at ei gilydd i ddathlu'r ŵyl.

Bydd Band Pres Porthaethwy, Côr Ieuenctid Môn a'r unawdydd Elgan Thomas yn cefnogi'r Gwasanaethau Brys ar y noson.

Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac y mae croeso cynnes i'r cyhoedd yn ogystal.

Bydd yr holl elw a gesglir yn ystod y gwasanaeth yn cael ei rannu rhwng Hafan Menai a'r Gadeirlan.

Wedi'r gwasanaeth bydd cyfle i fwynhau mins pei a phaned yn y Gadeirlan.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen