Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ailgylchu er mwyn cefnogi eich diffoddwyr tân lleol

Postiwyd

A hoffech  chi gefnogi eich diffoddwyr tân lleol a helpu i achub yr amgylchedd? A oes gennych chi ddillad neu decstilau nad ydych yn eu defnyddio o gwmpas  tŷ? Yna ewch â nhw i'ch gorsaf dân leol i'w hailgylchu.  

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymuno ag Ymgyrch Ailgylchu Elusen y Diffoddwyr Tân - menter genedlaethol sydd yn gosod biniau ailgylchu dillad y tu allan i orsafoedd tân ar hyd a lled y DU.

Mae Elusen y Diffoddwyr Tân yn un o'r prif elusennau yn y DU sydd yn  darparu gwasanaeth sy'n  sicrhau dyfodol gwell i ddiffoddwyr tân a diffoddwyr tân sydd wedi ymddeol, personél y gwasanaeth tân a'u teuluoedd.   Eu nod yw gwneud gwahaniaeth mawr drwy gefnogi pobl o'r gymuned tân ac achub  pan fyddant mewn angen.  Dros y blynyddoedd maent wedi cefnogi miloedd o bobl drwy gynnig triniaeth a gwasanaethau cefnogi o'r radd flaenaf.

Mae biniau ailgylchu dillad wedi cael eu gosod y tu allan i orsafoedd tân Abersoch, Amlwch, Abermaw, Caernarfon, Llanberis, Llandudno, Pwllheli a Rhosneigr.

Mae Philip Morris,Peiriannydd yr Amgylcheddol ac Arbed Ynni gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru, yn egluro mwy:

"Ym Mhrydain rydym yn cynhyrchu tua 650,000 tunnell o wastraff tecstilau bob blwyddyn, ac mae tecstilau yn llenwi 12% o'n tomennydd sbwriel.  Yn drist iawn, dim ond chwarter sydd yn cael ei ailgylchu.

"Fel rhan o'r cynllun mae tecstilau sy'n cael eu rhoi yn y biniau gan y cyhoedd yn cael eu hailgylchu.  Mae dillad sydd yn addas i'w defnyddio eto yn cael eu hanfon i weledydd sy'n datblygu ac eitemau nad ydynt yn addas i'w defnyddio yn cael eu hailgylchu ar gyfer y fasnach ddillad

"Mae'r eitemau yn cael eu casglu gan bartneriaid ailgylchu'r elusen, sydd yn rhoi arian i'r elusen am y tecstilau y maent yn eu casglu.  Drwy gefnogi cynlluniau ailgylchu gallwn godi arian i ddiffoddwyr tân anafedig yn ogystal â chael effaith bositif ar yr amgylchedd a'r economi. "

Fe ychwanegodd Paul Claydon, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

"Mae'r cynllun ailgylchu hwn yn codi dros £200,000 i Elusen y Diffoddwyr Tân ar draws y DU bob blwyddyn.   Ein gobaith yw cynyddu'r swm yma drwy osod biniau ailgylchu dillad y tu allan i'r gorsafoedd hyn yng Ngogledd Cymru.

"Ar hyn o bryd rydym yn treialu'r cynllun mewn wyth o'n gorsafoedd - ond os fydd yn llwyddiannus byddwn yn rhoi'r cynllun ar waith mewn ychwaneg o orsafoedd ar hyd a lled y rhanbarth.

 

"Gofynnaf i'n trigolion ddefnyddio'r biniau ailgylchu dillad hyn i gael gwared ar hen ddillad a thecstilau er mwyn ein cynorthwyo i amddiffyn ein hamgylchedd yn ogystal â chefnogi gwaith rhagorol Elusen y Diffoddwyr Tân."

Mae'r biniau wedi eu gosod yn y gorsafoedd canlynol;

Abersoch - Lôn Sarn Bach, Abersoch, Gwynedd, LL53 7EH

Amlwch -  Stryd Bethesda, Amlwch, Ynys Môn, LL68 9AU

Abermaw - Ffordd y Parc, Abermaw, Gwynedd, LL42 1PH

Caernarfon - Ffordd Llanberis Caernarfon, Gwynedd, LL55 2DF.

Llanberis - Maes Padarn, Llanberis, Gwynedd, LL55 4TB

Llandudno - Ffordd Conwy, Llandudno, Conwy, LL30 1HA

Pwllheli - Ffordd Caerdydd Isaf, Pwllheli, Gwynedd, LL53 2NF

Rhosneigr - Ffordd yr Orsaf, Rhosneigr, Ynys Môn, LL64 5QW

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen