Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Larymau mwg yn achub bywydau cwpl o’r Rhos

Postiwyd

Dywedodd Uwch Swyddog Diogelwch Tân bod larymau mwg gweithredol wedi achub bywydau cwpl oedrannus o'r Rhos wedi i flanced drydan fynd ar dân yn eu cartref neithiwr.

 

Cafodd diffoddwyr tân o Johnstown, Wrecsam a'r Waun eu galw i'r eiddo ar  Ffordd y Tywysogion, Rhosllannerchrugog am 20.27 o'r gloch neithiwr, Hydref 31.

 

Fe ddefnyddiodd y criwiau bedair set o offer anadlu ac un bibell ddŵr i ddiffodd y tân a ganfuwyd yn yr ystafell wely.  Fe achosodd y tân ddifrod i'r gwely a'r fatres a difrod mwg yn yr ystafell wely a gweddill y llawr cyntaf.  

 

Credir bod y tân wedi ei achosi gan nam trydanol yn y flanced drydan.

 

Roedd Andy Robb, Rheolwr Partneriaethau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar ran Wrecsam a Sir y Fflint, yn bresennol yn y digwyddiad.  Meddai: Yn anad dim, gallem fod wedi bod yn delio gyda digwyddiad trasig arall yma yng Ngogledd Cymru oni bai bod larymau mwg gweithredol wedi eu gosod yn yr eiddo.

 

"Roedd y gŵr yn ei wely ac roedd ei wraig wedi mynd yn ôl i lawr y grisiau ar ôl diffodd blanced drydan mewn ystafell arall.   Ymhen deng munud roedd tân wedi cynnau ac roedd y larymau mwg yn seinio. Oni bai eu bod wedi cael eu rhybuddio gan y larymau mwg, gallai'r tân fod wedi lledaenu'n gyflym iawn gan atal y gŵr rhag dianc i lawr y grisiau.

 

"Mae larymau mwg yn rhoi rhybudd cynnar fel y gallwch chi a'ch teulu ddianc o dân yn ddiogel - mae'r digwyddiad hwn yn dangos pa mor bwysig ydynt. Roedd y cwpl yn profi eu larymau'n rheolaidd drwy bwyso'r botwm 'profi' ar y larwm er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn gweithio.

 

"Er bod blancedi trydan yn cadw pobl yn gynnes ar nosweithiau oer, maent yn achosi tanau difrifol iawn. Os ydych chi'n defnyddio blancedi trydan, mae'n bwysig eich bod yn eu profi'n rheolaidd ac yn prynu rhai newydd yn lle'r hen yn aml.  Ceisiwch gadw cynghorion diogelwch tân mewn cof - peidiwch byth â defnyddio potel dŵr poeth os ydych yn defnyddio blanced drydan, hyd yn oed os ydi'r flanced wedi ei diffodd.  Hefyd, cofiwch dynnu plwg y flanced drydan cyn mynd i'r gwely, oni bai bod ganddi thermostat sy'n eich galluogi i'w defnyddio drwy'r nos.  Ac yn olaf, peidiwch â phlygu blancedi trydan gan fod hyn yn difrodi'r gwifrau. Cadwch hwy'n fflat neu rholiwch hwy.

 

"Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.

 

"Yn ystod yr archwiliad bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref, rhannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg nwydd yn eich cartref os oes angen.

 

"I gofrestru, galwch i 0800 169 1234, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch ebost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk. Bydd aelod o'r gwasanaeth yn cysylltu â chi i drefnu archwiliad ar amser sy'n gyfleus i chi."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen